Fy nhad, Merêd

Mered

Bydd cyngerdd arbennig yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 1 Mai i gofio'r Dr. Meredydd Evans fu farw'r llynedd yn 95 oed.

Roedd Merêd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru fel athronydd, perfformiwr, cynhyrchydd teledu, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith.

Ei ferch Eluned Evans fu'n hel atgofion am ei thad gyda Cymru Fyw:


Cymdeithasu rownd y piano

Y cof cyntaf sydd gen i o fy nhad yw pan ro'n i tua dyflwydd a hanner ac roedd o'n chwarae gêm trwy ofyn i mi yn Saesneg (doedd Mam, Phyllis Kinney, ddim yn gallu siarad Cymraeg ar y pryd,) "Who is the greatest philosopher in the world?".

Roedd o wedi fy nysgu i roi'r ateb 'Wittgenstein'. Roedd gan Dad feddwl mawr ohono.

Pan symudon ni i America roedd yn rhaid i Mam a fi fyw efo Taid a Nain America yn Pontiac, Michigan, am y flwyddyn gyntaf tra roedd fy nhad yn astudio am ei ddoethuriaeth yn Princeton.

Doedd dim grantiau yn y dyddiau hynny i gynnal myfyrwyr, a gan fod Princeton a Pontiac mor bell oddi wrth ei gilydd, ychydig iawn welon ni arno yn y flwyddyn gyntaf honno.

Yn yr 1950au, prin iawn yr oedd pobl yn defnyddio ffonau chwaith, felly byddai Mam a Dad yn anfon llythyrau maith yn ôl a 'mlaen.

Mi wnaeth Mam a finnau symud i Princeton y flwyddyn ganlynol. Mae gen i atgofion melys iawn yno o nosweithiau ar yr aelwyd o fy rhieni a'u ffrindiau yn canu. Roedd 'na lot o nosweithiau cymdeithasol felly o gwmpas y piano.

Oherwydd bod cymaint o fyfyrwyr tramor yn y coleg fe ddysgodd Dad lawer am gerddoriaeth y gwahanol wledydd fel Japan, Mecsico ac Indonesia. Roedd o'n hoff o gerddoriaeth o bob math.

Image caption Meredydd Evans: Y Perfformiwr

Dysgu wrth deithio

Mi wnaeth y nosweithiau yma barhau pan symudon ni i Cambridge ger Boston hefyd. Roedd gan Dad gariad mawr at y blŵs ac roedd yn ffrindiau efo cerddorion croenddu dosbarth gweithiol a daeth i ddeall mwy am sŵn yr urban blues roedden nhw'n ei ganu.

Bu'n canu hen ganeuon gwerin Cymraeg yn y nosweithiau yma ac er ei fod o mor bell o gartre, roedd o'n awyddus iawn i groesawu unrhyw un o Gymru fyddai'n debyg o fod ar ymweliad ag America.

Mi wnaeth Dad a Mam groesawu llu o Gymry i'r tŷ gan gynnwys Gwynfor Evans, Huw T. Edwards, Emlyn Williams a Hugh Griffith.

Pan ro'n i'n ferch fach ac yn teimlo'n anhwylus, dwi'n cofio y byddwn i'n mynd gyda Dad i'w ddosbarthiadau Logic ym Mhrifysgol Boston. Dwi'n cofio P logic a Q logic hyd heddiw!

Ar ddyddiau Sul bydden ni'n mynd am dro. Un o fy hoff lefydd oedd y Science Museum yn Boston. Roeddwn i wrth fy modd gyda model plastig o gorff dynol a oedd yno, pan roeddech chi'n pwyso botwm roedd gwahanol rannau'r corff yn goleuo.

Roedden ni'n mynd ar deithiau hefyd a Dad yn dweud hanesion am y gwahanol lefydd. Roedd o'n rhoi addysg i ni wrth fwynhau'r daith.

Cassius Clay, gangsters a'r Steddfod

Ar yr adegau prin pan roedd e'n cael cyfle i ymlacio roedd o wrth ei fodd gyda bocsio a thîm pêl fas y Boston Redsox. Roedd ganddyn nhw pitcher o'r enw Ted Williams - roedd Dad yn taeru ei fod yn dod o dras Cymreig! Un o'i hoff focswyr oedd Sugar Ray Robinson ac roedd ganddo feddwl mawr o Muhammad Ali, neu Cassius Clay fel roedd o'n cael ei adnabod ar y pryd.

Doedd Dad ddim yn darllen nofelau rhyw lawer, ar wahân i glasuron y cyfnod fel 'Catcher in the Rye' a 'To Kill a Mockingbird'. Yn eironig, fel heddychwr o argyhoeddiad, roedd o'n mwynhau ffilmiau gangster a'r westerns.

Er gwaetha'r pellter, byddai Dad yn ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol nôl yng Nghymru ac rwy'n cofio dod gyda fo ddwywaith, ym 1955 a 1957. Do'n i ddim yn gwybod tan i'r rhaglen ddogfen am ei fywyd gael ei darlledu yn 2014 ei fod o wedi cael ei frifo gymaint ar ôl i gyfaill ei alw'n 'Ianci' ar y Maes. Gafodd hynny effaith fawr arno fo.

Image caption 'Maverick' y BBC

Sefyllfa'r Gymraeg

Pan adawodd o Gymru, rwy'n credu ei fod o'n teimlo bod sefyllfa'r Gymraeg yn weddol gadarn, ond pan ddaeth o nôl mi sylweddolodd, dros y 10 mlynedd nesaf, bod yna newid mawr yn digwydd wrth i nifer fawr o bobl symud yma nad oedd yn siarad Cymraeg. Roedd o'n gweld bod hyn yn dechrau cael effaith ar y cymunedau Cymraeg, a'i bod yn mynd i fod yn frwydr i ddiogelu'r iaith.

Roedd y frwydr honno yn ei feddwl yn gyson pan roedd o'n Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru. Roedd y penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud yn Llundain ac roedd rheolwyr BBC Cymru ar y pryd yn gorfod ymladd am arian a chydnabyddiaeth o anghenion gwylwyr Cymraeg.

Doedd o ddim bob amser yn teimlo'n gyfforddus yn y swydd ac roedd hi'n gamp fawr i ddatblygu gwasanaeth Cymraeg a Chymreig o safon. Er mai fo oedd pennaeth yr adran roedd o'n gweld ei hun fel aelod o dîm ac roedd wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl fel Ruth Price, Jack Williams, David Richards, Marged Price a Rhydderch Jones.

Ond fe benderfynodd yn y pen draw droi ei gefn ar y sefydliad er mwyn gwneud rhagor i gefnogi'r Gymraeg ac i fynd yn ôl at ei gariad cyntaf, sef addysg oedolion. Roedd o'n teimlo gollyngdod o fod yn rhydd i ddweud ei farn a dilyn ei reddf.

Torri'r gyfraith

Yn 1979 fe benderfynodd weithredu'n uniongyrchol yn y frwydr i sicrhau sianel Gymraeg. Mi wnaeth o - ar y cyd gyda Pennar Davies a Ned Thomas - ddiffodd trosglwyddydd Pencarreg.

Ro'n i wedi symud yn ôl i Gwmystwyth gyda'r plant ar ôl i fy mhriodas chwalu, felly rwy'n cofio pan gyhoeddodd Dad ei fwriad i dorri'r gyfraith. Ddaru ni drafod y sefyllfa fel teulu a fe wrandodd Dad ar safbwynt Mam a finnau cyn gwneud ei benderfyniad terfynol ac, wrth gwrs, fe wnaethom ni roi ein cefnogaeth lawn iddo fo.

Roedd e'n egwyddorol iawn ynglŷn â sut yr oedd am weithredu ac yn cymryd torri'r gyfraith o ddifri. Unwaith y byddai'r weithred wedi ei gwneud doedd e ddim am ddianc. "Os wyt ti'n penderfynu torri'r gyfraith mae'n rhaid i ti fod yn barod i dderbyn y gosb".

Fe ddywedodd rhai pobl bethau cas wrth Dad ac amdano ar ôl y digwyddiad yma, ac eto wedi iddo wrthod talu ei drwydded deledu yn 1999. Doedd e ddim yn gallu goddef cecru mewnol gwleidyddol. Doedd e ddim yn deall pam bod gwleidyddion oedd yn awyddus i weithredu dros Gymru mor barod i ymosod ar ei gilydd.

Roedd fy nhad yn medru maddau iddyn nhw, ond yn bersonol rwy'n dal i'w chael hi'n anodd.

Image caption Roedd Merêd yn ymgyrchydd angerddol dros y Gymraeg hyd at ddiwedd ei fywyd

Siom a chalondid

Erbyn diwedd ei oes roedd e'n dechrau digalonni am y sefyllfa wleidyddol. Roedd o'n falch bod yna Gynulliad Cenedlaethol wedi ei sefydlu ond doedd o ddim wedi ei argyhoeddi y byddai gan y sefydliad yr ymrwymiad gwleidyddol i wneud y pethau sydd angen eu gwneud er mwyn diogelu'r Gymraeg a'r bywyd Cymreig.

Roedd o'n llawer mwy gobeithiol ar y lefel leol, yn enwedig yn ei filltir sgwâr yng Nghwmystwyth. Roedd mudiadau grassroots fel y Mudiad Ysgolion Meithrin, Merched y Wawr, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn rhoi mwy o obaith iddo fo na'r sefydliadau.

Ond sefydliad roedd o'n falch iawn ohono oedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Roedd addysg yn rhan ganolog o'i fywyd ac roedd o mor falch fod yna gymaint o bobl ifanc wedi dewis cael eu haddysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd o hefyd yn gweld gobaith mewn cerddoriaeth Gymraeg gyda grwpiau ac artistiaid fel 9Bach, Calan, Robin Huw Bowen a Gwilym Bowen Rhys yn cadw'r traddodiad gwerin yn fyw mewn oes fodern. Roedd o'n mwynhau trosglwyddo ei wybodaeth a'i egni iddyn nhw.

Dwi'n teimlo, weithiau, bod baich mawr ar f'ysgwyddau i ond, i fod yn hollol onest, mae'n amhosibl dilyn Dad.

Image caption Eluned Evans yn derbyn Gwobr Traddodiad Da, ar ran ei thad, yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 y llynedd