Carlin yn creu darn arian newydd 100 diwrnod cyn Rio

Jazz Carlin Image copyright Bathdy Brenhinol

Mae'r nofwraig o Gymru, Jazz Carlin wedi helpu i gynhyrchu darn arian newydd yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i nodi 100 diwrnod tan ddechrau'r Gemau Olympaidd yn Rio.

Mae'r darn 50c arbennig, sydd wedi ei gynhyrchu mewn partneriaeth a thîm Prydain, ar gael mewn arian, aur a phlatinwm.

Fe wnaeth Carlin, 25 oed, sicrhau ei lle yng ngharfan Prydain ar gyfer y gemau yn gynharach yn y mis.

Dywedodd: "Galla'i ddim aros am y misoedd nesaf, a rhoi'r gwaith caled olaf i mewn."

Image copyright Bathdy Brenhinol

Methodd Carlin a sicrhau ei lle yn y garfan ar gyfer Llundain 2012 oherwydd salwch.

Dywedodd Anne Jessopp o'r Bathdy Brenhinol ei bod yn falch gallu "dangos ein cefnogaeth i dîm Prydain yn y ffordd yma, a dathlu talent, ymroddiad ac ysbryd Olympaidd yr athletwyr".