Llynges Gwlad Belg ger arfordir gogledd Cymru

llynges Image copyright Llynges Belg
Image caption Y Minehunter BNS Lobelia, a'r BNS Godetia

Mae llongau milwrol o Wlad Belg yn parhau i gynnal ymarferion ger arfordir gogledd Cymru.

Fe gyrhaeddodd llongau Minehunter BNS Lobelia, a'r BNS Godetia, Drwyn Cilan, ger Abersoch nos Lun, ar ôl gadael Brest, yn Llydaw, ddydd Sul.

Fe dreuliodd y llongau'r rhan fwyaf o ddydd Mawrth yn hwylio o amgylch arfordir Gwynedd, gan sbarduno llu o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gweithgarwch milwrol wedi arwain at adroddiadau ar y cyfryngau cenedlaethol, gan gynnwys y Daily Mail a'r Daily Mirror.

Fe gyrhaeddodd trydedd long o lynges Gwlad Belg yr ardal nos Fawrth, sef y BNS Pollux.

Mae BBC Cymru yn deall fod yr ymarfer yn cynnwys grŵp o 30 o swyddogion newydd, sy'n agosáu at ddiwedd eu hyfforddiant gyda lluoedd arfog Gwlad Belg.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi eu bod yn ymwybodol o bresenoldeb y llynges, ond nad oeddynt wedi cael gwybod beth oedd y llongau yn eu gwneud.

"Rydym yn credu eu bod yn cynnal ymarferion arferol. Nid yw'n unrhyw beth anghyffredin."

Mae disgwyl i'r llongau hwylio i borthladd Dulyn erbyn diwedd yr wythnos.

Image copyright marinetraffic.com
Image caption Mae cofnodion data yn dangos fod y llongau wedi bod yn cynnal ymarferion ger arfordir Pen Llŷn