Amser am lechen lân yng Nghastell Penrhyn?

Lisa Heledd gyda John Ogwen Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Image caption Yr artist Lisa Heledd Jones gyda'i hewythr John Ogwen o flaen grât fawr neuadd Castell Penrhyn

Fel plentyn, roedd rhieni Lisa Heledd Jones yn mynd â hi ar lu o dripiau teuluol i weld cestyll Cymru. Ond fuon nhw erioed â hi i Gastell Penrhyn ger Bangor.

Felly pan glywodd yr artist o Lyndyfrdwy ger Llangollen am gyfle i weithio ar brosiect celf i archwilio "hanes dadleuol" y castel ffug-Normanaidd roedd hi'n synnu nad oedd erioed wedi clywed am y lle.

"Wel, fysen ni ddim wedi mynd i fanne na fasen?" meddai ei thad pan ofynnodd iddo pam na aeth â hi yno erioed, "... dim ar ôl be wnaeth y teulu yne... gofyn i Yncl John."

Yncl John yw'r actor John Ogwen sy'n fab i chwarelwr o Sling ger Bethesda.

Wedi iddo egluro hanes Bethesda, Streic Fawr y Penrhyn a theimladau pobl leol tuag at y castell fe gafodd diddordeb Lisa ei danio ac fe aeth ar daith emosiynol i ddarganfod mwy am hanes ei theulu a hanes Cymru.

Rŵan mae hi'n credu ei bod hi'n bryd i hanes y streic a theimladau pobl Dyffryn Ogwen gael lle amlycach yn y straeon sy'n cael eu dweud wrth ymwelwyr â Chastell Penrhyn.

Mae Lisa yn un o dair artist sydd wedi eu comisiynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, perchnogion presennol y castell, i "ailddarganfod" straeon Castell Penrhyn.

"Mae yne deimlad fod yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn dathlu yr hen deulu fyny at rwan. Felly mae mynd yno yn gam yn ôl i bobl," meddai.

"Dwi'n dallt o lle mae hynny'n dod. Ond 'neith o ddim newid os nag yden ni yne yn d'eud yr hanes ein hunain."

Dywed yr Ymddiriedolaeth fod y prosiect celf yma'n rhan o broses i newid y ffordd mae hanes y castell yn cael ei gyflwyno.

'Symbol o annhegwch'

Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Image caption Cafodd Castell Penrhyn ei adeiladu ar lafur chwarelwyr Bethesda a chaethweision planhigfeydd siwgr Jamaica

Roedd y castell yn gartref i deulu'r Pennant, tirfeddiannwyr oedd yn rheoli'r ardal o'u cwmpas ac oedd yn berchen ar y chwarel ym Methesda lle bu'r streic fwyaf yn hanes diwydiannol Prydain rhwng 1900-1903.

Achosodd galedi, chwerwder a rhwygiadau yng nghymuned Bethesda.

Roedd y teulu hefyd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica a wnaeth eu ffortiwn drwy gaethwasiaeth.

Er fod y castell wedi dod dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth ers 1951, fel rhieni Lisa, mae llawer o bobl leol yn gwrthod mynd yno am ei fod yn symbol iddyn nhw o annhegwch ac yn destun casineb.

Roedd John Ogwen yn un o'r rheiny oedd wedi addunedu i beidio byth mynd ar gyfyl y castell.

Ond mae wedi newid ei feddwl a mynd i'r castell am y tro cyntaf yn ddiweddar i lansio llyfr am hanes y chwareli.

"Mi ro'n i'n teimlo bod yn rhaid mynd rywbryd a mi es, a dyna fo. Dwi'n falch erbyn hyn mod i wedi mynd... a sylweddoli lle mor hyll ydi o," meddai.

'Yr hen ffordd ffiwdal'

Felly, ydy'r hen deimladau wedi dadmer ychydig?

Image copyright Lisa Heledd Jones
Image caption Mae'r teimladau lleol yn erbyn y castell yn dal yn gryf

Nac ydyn, meddai John a gollodd ei dad i Silicosis ar ôl oes o anadlu llwch y chwarel: "Mae rhywun yn ymwybodol o'r cyfnod hwnnw, o 1878 i fyny i'r cyfnod ar ôl y streic, 1903, mi gafon nhw eu trin yn arswydus. Nid gofyn am fwy o arian oeddan nhw mewn gwirionedd ond gofyn am barch, parch fel dynion."

Mae'r castell iddo fo yn "symbol o hen ffordd ffiwdal Lord y Penrhyn dros y chwaral a'r chwarelwyr."

Yn ôl Lisa, mae ei hewythr yn hapus ei bod hi wedi bod yn rhan o brosiect y castell am ei fod yn "gallu gweld mai be o'n i'n trio 'neud oedd dod â'r straeon yma i fewn i'r castell, a'r broblem sydd ganddo fo efo'r castell ydy'r ffaith ei fod yn symbol o be ddigwyddodd."

"Mae peidio â mynd i'r castell fel cario 'mlaen ryw brotest fach mewn undod gyda'r streicwyr - a dwi'n deall lle 'nath hynne ddechrau - ond dwi yn meddwl ei bod yn amser i newid hynne os fedrwn ni newid yr hanesion sydd yn y castell," ychwanegodd.

Newid y straeon

Image copyright Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Image caption Mae'r artistiaid am ddod â stori'r chwarelwyr i galon y castell

Yn ôl Nerys Jones, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn, mae'r prosiect celf yma, sy'n cael ei gynnal ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn gam cyntaf i geisio newid y ffordd mae'r castell yn cael ei ddehongli.

"Rydyn ni ar daith yma yn y Penrhyn i ailddarganfod y straeon sydd ynghudd yn y waliau hyn a thu hwnt, ac i archwilio gwahanol ffyrdd o gyflwyno'r straeon hyn, sydd weithiau'n rhai anodd ac emosiynol heriol, i'n hymwelwyr," meddai.

"Nid yw'n gyfrinach y gall Castell Penrhyn weithiau ennyn ymateb gwahanol yn lleol oherwydd ei hanes. Mae'r prosiect eisoes wedi cychwyn deialog pwysig rhwng y gymuned leol a'r castell...

"Mae'r gwaith sydd wedi ei greu yn mynd tu hwnt i be' yr oedden ni'n disgwyl," meddai, gan ychwanegu fod y gwaith yn "procio ac yn cwestiynu sut mae'r rhan yma o'n hanes yn cael ei gyflwyno a'i gofio."

Mae Lisa'n croesawu'r newid yma: "I fi dydi o ddim am ddathlu moethusrwydd a phobl gyfoethog a pha mor foethus oedd y carpedi," meddai "mae hynny'n rhan o'r ethos oedd gennyn nhw ers talwm am wrthrychau...

"Ond mae hynny'n newid rŵan ac mae'n newid tuag at straeon a hanes ac nid adrodd un fersiwn yn unig.

"Hefyd mae'n ddiddorol! Yn foesol mae'n bwysig, ond jyst o ran diddordeb mae'r ffaith fod y streic wedi digwydd a'i fod y streic mwya' sydd wedi digwydd yn hanes Prydain - wel mae hynny'n anhygoel, dydi?

"Mi ddylai pawb sy'n cerdded i mewn i'r castell yne wybod hynny. Mae'r ffaith ei fod ar goll a'u bod nhw eisiau dechrau dweud hyn, wel, dwi'n meddwl fod hynny'n gyffrous ac yn bwysig ac y dylai bod pobl leol yn deall fod lle iddyn nhw yne rwan."

'Am ddwyn y mynydd mi gewch chi'ch gwneud yr Arglwydd'

Fel man cychwyn mae Lisa wedi gosod bocs golau yn y grât enfawr sy'n wynebu pobl wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r neuadd fawr yn y Castell ac arno ddyfyniad y clywodd hi sawl gwaith wrth holi pobl leol: "Mi gewch chi'ch crogi am ddwyn dafad oddi ar y mynydd. Ond am ddwyn y mynydd mi gewch chi'ch gwneud yr Arglwydd".

Mae hi hefyd wedi gosod tair cadair freichiau yn y castell ac mewn dau leoliad ar stryd fawr Bethesda, Caffi Coed y Brenin a Siop Ogwen, lle gall pobl eistedd a gwrando ar straeon, lleisiau a synau lleol mae Lisa wedi eu casglu.

Bydd ei gwaith hi a'r ddwy artist arall i'w gweld yn y castell tan fis Hydref 2016.

Mae'r artist Robyn Woolston wedi creu gosodiad yn y castell o faneri undebau llafur ochr yn ochr â ffilm ddogfen sy'n archwilio teimladau a phrofiadau chwarelwyr.

"Mae teimladau heriol yn parhau i fodoli yng nghalonnau a meddyliau pobl Bethesda wrth ystyried Castell Penrhyn,"meddai hi.

Image copyright Ymddiredolaeth Genedlaethol
Image caption Lisa Heledd Jones, Robyn Woolston a Joanna Wardrop: yr artistiaid sy'n dangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn tan fis Hydref

"Mae rhwygiadau a ddechreuodd yn ystod y Streic Fawr sydd wedi parhau hyd y dydd heddiw, gan gael eu trosglwyddo o deidiau i dadau, ac yna o dadau i wyrion. Mae'n amser rhoi mwy o le i'r hanesion hyn 'anadlu' er mwyn dyfnhau ein dealltwriaeth o hanes ac etifeddiaeth y bobl a gynorthwyodd i adeiladu cyfoeth y castell - o safbwynt diwylliannol, hanesyddol ac ariannol".

Mae'r trydydd artist sy'n rhan o'r prosiect, Joanne Wardrop, yn cymharu'r castell rhodresgar i gasino. Mae hi wedi creu carped hir lliwgar wedi ei greu o ddarluniau sydd wedi deillio o straeon mae hi wedi eu clywed gan bobl leol.

Mae Lisa yn credu fod yr hanes yn un ddylai pawb yng Nghymru a phawb ym Mhrydain wybod amdano, nid pobl yr ardal yn unig: "Unwaith ti'n dod i ddallt mwy a mwy amdano fo, y mwya' ti'n dallt pa mor bwysig ydi hi fod yr hanes yma yn cael ei ddweud. Dydi o ddim jyst am be ddigwyddod ers talwm, mae'r math o beth yn dal i ddigwydd rwan... y math yne o anghyfartaledd rhwng pobl efo lot o arian a thir a grym - a'r gweithwyr .

"Felly y mwya' ryden ni'n dallt am ein hanes ni, y mwya' y gallwn ni ailfeddwl ein dyfodol ni.

"Mae'n ymwneud â landlordism, gwleidyddiaeth, daearyddiaeth, y mudiad sosialaidd... dwi'n meddwl dyle bod ffilm wedi ei gwneud - efo Leonardo DiCaprio! Dwi jyst ddim yn coelio nad oeddwn i'n gwybod yr hanes!"

Image copyright Robyn Woolston
Image caption Gwaith Robyn Woolston sy'n adlewyrchu cysylltiad y streic gydag undebau llafur

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.