Technoleg sonar yn amlygu llongddrylliadau

Llongddrylliad yr Apapa Image copyright Prifysgol Bangor
Image caption Llongddrylliad yr Apapa

Mae prosiect i fapio gwely'r môr gan ddefnyddio technoleg sonar wedi amlygu manylion tanfor nodweddion yn cynnwys llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru.

Arweinir prosiect Seacams gan Brifysgol Bangor ac mae'n mapio cannoedd o filltiroedd o dir o dan y dŵr.

Mae'r gwaith yn cwmpasu'r arfordir oddi ar Ynys Môn a phenrhyn Llŷn a rhannau o arfordir de Cymru.

Mae rhai o'r longddrylliadau yn dyddio yn ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r gwyddonwyr sy'n gweithio ar y prosiect yn gobeithio y bydd y gwaith yn helpu i wella dealltwriaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar wely'r môr, a sut i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy a chynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy morol.

Image copyright Prifysgol Bangor
Image caption Aeth y tancer, yr SS Derbent i lawr oddi ar Amlwch ar Ynys Môn ar 30 Tachwedd 1917
Image copyright Prifysgol Bangor | Google
Image caption Edrych dros y Fenai

Mae canlyniadau'r mapio yn cael eu gosod ar ddelweddau Google Earth i ddarparu cyd-destun i wylwyr.

Ymhlith y delweddau mae y llongddrylliadau yr Apapa, stemar, a SS Derbent, tancer, a gafodd eu chwalu gan U-gychod yr Almaen o fewn deuddydd i'w gilydd yn 1917 ar lwybrau mewn ac allan o Lerpwl.