Gogledd Caerdydd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Etholiad 2016: Golwg ar etholaeth Gogledd Caerdydd

28 Ebrill 2016 Diweddarwyd 12:02 BST

Bydd canlyniad yr etholiad yn dibynnu'n fawr ar etholaethau fel Gogledd Caerdydd.

Mae'n sedd Geidwadol yn San Steffan ond Llafur sy'n cynrychioli'r etholaeth ym Mae Caerdydd.

Pa mor ymylol yw hi? Roedd llai na 1,800 o bleidleisiau rhwng y ddwy blaid bum mlynedd yn ôl, gyda Julie Morgan yn mynd a hi flwyddyn wedi colli'r sedd seneddol i'r Torïaid.

Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd sy'n asesu ras agos Gogledd Caerdydd.