Gerallt, fy mrawd bach

Brodyr y Brifwyl: Y Prifeirdd Gerallt a Geraint Lloyd Owen Image copyright Sion Jones
Image caption Brodyr y Brifwyl: Y Prifeirdd Gerallt a Geraint Lloyd Owen

Yr Archdderwydd etholedig Geraint Llifon fydd gŵr gwadd Cymdeithas Cadwgan, Pentyrch nos Iau 5 Mai. 'Gerallt a Geraint' fydd testun ei sgwrs. Bydd yn trafod gwaith a bywyd ei ddiweddar frawd, Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, fu farw ym mis Gorffennaf 2014. Bu'r Prifardd Geraint Lloyd Owen yn rhannu rhai o'i atgofion gyda Cymru Fyw:


Gerallt, fu bardd rhagorach

Erioed bois, na fy mrawd bach!

Roedd o'n wahanol. Nid pawb oedd â'r awydd ganddo i fod yn fardd. Ond dyna ei nod a'i uchelgais o, a phan oedd pawb arall yn chwarae ac yn cicio pêl yn y Sarnau ym Mhenllyn, mi roedd o yn sgwennu, sgwennu a sgwennu.

A phan oedd ei gyfoedion yn cyfnewid cardiau sigarennau, a lluniau pêldroedwyr enwog roedd Gerallt yn casglu lluniau o feirdd a llenorion ein gwlad ac yn eu gosod yn daclus ar siart ar ddrws yr ystafell wely o dan y pennawd Oriel yr Anfarwolion. Mae'r rhan fwyaf o'r lluniau gennyf hyd heddiw - Eben Fardd, Sarnicol, Pantycelyn, Parry Williams, Williams Parry, Dewi Emrys, Moelona, ayyb. Dyna'r cewri a oedd yn gwarchod ein llofft ni am flynyddoedd.

Image copyright S4C

Roedd milltir sgwâr ei blentyndod yn bopeth iddo hefyd. Ac o rwbio yng nghymeriadau'r Sarnau a'u tebyg daeth yr uchelgais i fod yn fardd yn wir. Erbyn ei fod yn 13 oed roedd wedi llenwi tri llyfr efo penillion, cwpledi, cerddi ac ambell bennill ar siâp englyn hefyd, canys roedd ganddo ddiddordeb bellach yn y gynghanedd.

Yn bymtheg oed fe enillodd ei wobr gyntaf ar yr englyn mewn Steddfod ddigon dinod yn Nhŷ Nant ger Dinmael ar yr A5. Roedd o'n tyfu fel bardd ac ennill fel yna yn rhoi rhyw anogaeth iddo ddal ati. Bellach hefyd roedd pobl yn galw heibio ein cartref yn siop y pentre. Rhai fel Gwilym R. Mathonwy Hughes, Euros Bowen, T. E. Nicholas, John Ellis Williams a Jâms Niclas. Roedd y sgwrsys hynny'n naturiol yn troi o gwmpas beirdd a llenorion ac mae'n sicr gen i i'r cyfan ysgogi Gerallt i ddal ati.

Ac yntau bellach yn 17 oed fe symudodd ei rieni o'r siop yn y Sarnau i Rhosbodrual, Caernarfon gan adael Gerallt i orffen ei flwyddyn olaf yn y chweched dosbarth yn Ysgol Tŷ Tan Domen. Dyma flwyddyn marw ei arwr cynnar (Llwyd o'r Bryn) a blwyddyn englynion coffa cofiadwy Gerallt iddo.

Ymhen peth amser fe gyhoeddodd 'Ugain oed a'i ganiadau'. Gwylio ei dwf yr oeddwn wedyn o fod yn fardd (a gwireddu ei nod yn blentyn) i fod yn fardd mawr.

Image copyright AFP
Image caption Gerallt: y Meuryn medrus

Ond mae un peth ar ôl ac mae'n rhaid cyfeirio ato. Hynny oedd ei hiwmor.

Am wn i mai gan Taid y cafodd Gerallt hwnnw. Yr hiwmor sych, sydyn hwnnw a godai wên a chwerthin iach o'i glywed ac yn wir ryw chwerthiniad yng nghefn y gwddf ganddo yntau. Fe'i clywsom ganwaith ar y Talwrn yn rhoi ambell i 'fardd' yn solet yn ei le yn enwedig os byddai'n teimlo fod 'hwn a hwn' neu 'hon a hon' angen ei dynnu lawr beg neu ddau a bod angen dangos ei led a'i hyd iddo/iddi. Un stori i brofi'r hiwmor.

Rwy'n credu mai'r Talwrn ola' iddo yn y Genedlaethol oedd hi. Roedd o'n mygu'n gorn wrth gerdded i gyfeiriad y babell Lên ac wedi aros yn ei gwman i gael ei wynt, a'i ddwylaw ar ei ddau ben-glin. Dyma un o'i gyfoedion ysgol yn ei weld ac yn anelu ato am sgwrs. Wedi holi am gant a mil o bethau a Gerallt yn cael byd i'w ateb oherwydd y mygdod, dyma ei gyfaill yn gofyn, 'Ŵens, oes 'na rywbeth fedra i ei wneud i ti?' A dyma'r ateb fel ergyd o wn, 'Oes, cau dy blydi ceg.'

Ac mae'n amser i minnau wneud hynny rŵan.