Galw am 'weledigaeth' i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru

Hospital Image copyright Thinkstock

Does yr un o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru'n cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli staff rheng flaen.

Mae meddygon ysbyty, llawfeddygon, meddygon teulu a nyrsys wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn pryderu am ddiffyg manylder ym maniffestos y pleidiau.

Er eu bod yn awgrymu fod gan bob un o'r pleidiau syniadau defnyddiol, maen nhw'n dweud bod angen mynd i'r afael â'r gofynion cynyddol.

Yn y cyfamser, mae llythyr agored at bleidiau yn galw am daclo amseroedd amser.

Mae BBC Cymru wedi siarad â chwe sefydliad proffesiynol sy'n cynrychioli degau ar filoedd o staff y GIG.

Roedd pedwar ohonyn nhw hefyd wedi cynnig edrych yn fanwl ar faniffestos y prif bleidiau i ni.

Yn benodol, mae 'na bryderon nad oes yr un o'r pleidiau yn cynnig gweledigaeth ar gyfer sut dylid newid y GIG dros y pump i 10 mlynedd nesa' er mwyn delio gyda'r pwysau cynyddol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, gydag anghenion mwy cymhleth.

Maen nhw hefyd yn dadlau nad oes awgrym clir faint o arian fyddai ei angen i gyflwyno newidiadau.

Rhestrau aros

Yn y cyfamser, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS), sy'n cynrychioli'r rhan fwya' o lawfeddygon sy'n gweithio yng Nghymru - eisiau i bob plaid ganolbwyntio ar leihau rhestrau aros.

Mewn llythyr agored at arweinwyr bob un o'r pleidiau, mae'r Coleg yn dweud eu bod yn pryderu am 430,000 o bobl sy'n aros am driniaeth yng Nghymru, ac nad yw'r targedau ar gyfer rhestrau aros 26 a 36 wythnos yn cael eu cyflawni.

Roedd y llythyr hefyd wedi'i arwyddo gan arweinwyr y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Ffisegwyr, a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru.

Dywedodd Tim Havard, cyfarwyddwr materion proffesiynol yr RCS yng Nghymru ei bod hi'n "galonogol" fod nifer o'r pleidiau yn addo taclo amseroedd aros hir.

Ond mae'n dweud y bydd hi'n her mynd i'r afael â'r sefyllfa.

"Fe fyddwn i'n amau unrhyw blaid wleidyddol sy'n dweud fod 'na atebion syml i hyn," meddai'r ymgynghorydd ysbyty.

"Rwy'n credu bydd angen penderfyniadau anodd. Bydden ni eisiau gweld y weinyddiaeth newydd yn trafod gyda meddygon a nyrsys i benderfynu ar gynllun synhwyrol."

'Tu hwnt i'r model traddodiadol'

Yn ôl Dr Alan Rees, is lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yng Nghymru, sy'n cynrychioli meddygon ysbyty: "Mae'r pleidiau i gyd eisiau system gofal iechyd effeithlon a chynhwysfawr yng Nghymru. Mae'r modd rydych chi'n darparu hynny'n dibynnu ar adnoddau a chyllid, ac mae angen manylu ar sut rydych chi'n mynd i weithredu'r cynlluniau hyn."

Mae e'n gwrthwynebu newidiadau strwythurol mawr, ond yn dweud bod angen i'r GIG feddwl y tu hwnt i'r model traddodiadol o feddygon teulu ac ysbytai.

"Fe ddylai meddygon teulu fod yn gweithio wrth ddrws ffrynt ysbytai ac fe ddylai ymgynghorwyr ysbyty fod yn mynd allan i'r gymuned - felly mae'n rhaid bod yn arloesol ac yn fwy effeithlon."

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) - sy'n cynrychioli tua 25,000 o nyrsys - hefyd yn erbyn unrhyw ad-drefnu ar raddfa fawr o fewn y GIG, ond maen nhw'n croesawu cynlluniau i hyfforddi mwy o nyrsys.

Ond maen nhw'n galw am fwy o fanylion ar sut y gellid cyflawni hynny.

"Rydyn ni angen gweledigaeth ynghylch sut y bydd y GIG yn edrych ymhen pump i 10 mlynedd," meddai'r cyfarwyddwr Tina Donnelly.

"Dydy hynny ddim gennym eto, all neb ddweud wrthon ni."

'Argyfwng'

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu'n dadlau na fydd newidiadau "tameidiog" yn ddigon i ddelio â'r "argyfwng" maen nhw'n dweud sy'n wynebu meddygon teulu.

Maen nhw'n galw am recriwtio 400 yn rhagor o feddygon teulu, yn ogystal â mwy o wariant ar ofal cynradd.

It wants 400 extra GPs to be recruited and big increase in the proportion of the health budget spent on primary care.

Dywed Cymdeithas Feddygol y BMA - sy'n cynrychioli tua 8,000 o feddygon yng Nghymru - eu bod yn croesawu'r addewidion am fwy o staff a gwella ansawdd y gofal a'r diogelwch o fewn y GIG.

Ond mae'r Gymdeithas yn awgrymu nad oes syniadau mawr, radical yn y maniffestos.

Meddai Dr Phil Banfield, cadeirydd y BMA yng Nghymru:

"Mae angen naill ai swm mawr o arian neu mae angen ailfeddwl yn llwyr ynghylch y ffordd fyddwn ni'n darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

"Y weledigaeth honno sydd ar goll. Gan ddechrau gyda'r claf - gweithio gyda'u hanghenion iechyd nhw a herio byrddau iechyd a gwleidyddion i ddarparu hynny."

Mae'r cyrff meddygol i gyd yn cytuno fod pwy bynnag sy'n ffurfio'r llywodraeth nesa' yng Ngymru angen gwrando ar farn cleifion a staff rheng flaen wrth ddatblygu polisïau iechyd newydd.

Fe fyddan nhw hefyd yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i gydweithio er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau mawr ddaw yn y dyfodol.

Straeon perthnasol