Addysg bellach: y 'Sinderela' o fewn y maes?

Dosbarth Image copyright Getty Images

Mae weithiau'n cael ei weld fel sector 'Sinderela' y byd addysg yng nghysgod y prifysgolion.

Ond mae gan golegau addysg bellach rôl wrth ddarparu rhai o amcanion canolog maniffestos y pleidiau wrth hybu sgiliau a chynyddu nifer y prentisiaethau.

Mae'r sector wedi gweld toriadau llym i gyllidebau dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig i gyrsiau oedolion a chyrsiau rhan amser.

Dangosodd ffigurau diweddar fod cwymp o fwy na thraean wedi bod yn nifer y bobol ar gyrsiau addysg bellach i'w gymharu â degawd ynghynt.

Mae dwy ran o dair o bobol ifanc 16-19 yn astudio mewn colegau addysg bellach, wrth i golegau yn gynyddol ddarparu cyrsiau Safon Uwch (Lefel A).

Tra bod y cyrsiau yma wedi cael eu diogelu i raddau helaeth, y ddarpariaeth ar ôl 19 sydd wedi derbyn yr ergyd ariannol fwyaf er bod y gyllideb ar gyfer eleni yn fwy sefydlog.

Cwympodd cyllideb addysg bellach 6% flwyddyn ddiwethaf, ond yn ôl Colegau Cymru roedd hynny'n golygu haneru'r gyllideb ar gyfer addysg oedolion.

Dros y ddegawd ddiwethaf mae cwymp o fwy na 100,000 wedi bod yn nifer y bobol yn astudio mewn coleg, y gymuned neu'r gweithle - gostyngiad sydd wedi cael ei alw'n "syfrdanol" gan y corff sy'n cynrychioli'r sector.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru roedd 195,700 o bobol ar gyrsiau yn 2014/15.

Yn 2005/6 y ffigwr oedd 311,145.

Image caption Iestyn Davies

Dywedodd Prif Weithredwr Colegau Cymru Iestyn Davies bod "dysgu'n hanfodol ar gyfer economi sy'n tyfu".

"Mae dysgu rhan amser yn arbennig o bwysig i oedolion sydd eisiau ail-ymuno â'r gweithlu neu ail-hyfforddi", meddai.

"Mewn economi sy'n newid drwy'r amser, mae angen cyfle ar oedolion i fethrin sgiliau newydd ar yr amser iawn.

"Mae'r sefyllfa'n arbennig o ddifrifol yng Nghymru ble mae gormod o bobol heb gymwysterau o gwbl, neu dim ond â chymwysterau lefel isel."

Safbwynt y pleidiau

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llafur o gyllido addysg mewn modd "anghyfartal" sydd wedi bod yn "hynod o niweidiol" i addysg bellach.

Mae'r blaid yn addo buddsoddi mwy yn y sector ac ehangu cyfleoedd i bobol astudio.

Ond mae Llafur Cymru yn mynnu ei bod "yn gefnogol tu hwnt i addysg bellach yng Nghymru a'r cyfleoedd mae'n ei gynnig i unigolion i feithrin sgiliau newydd".

"Fe fydd yr addewid i greu 100,000 o brentisiaethau dros y tymor Cynulliad newydd, meddai'r blaid, "yn helpu darparu ffynhonnell sefydlog o gyllid dros y blynyddoedd nesaf."

Fe fyddai UKIP yn "diogelu o leiaf" cyllid addysg bellach ac yn ystyried ail-fuddsoddi arbedion addysg uwch yn y sector.

Yn ôl y blaid, rhaid meddwl nid yn unig am y budd economaidd ond budd cymdeithasol a phersonol hefyd.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol mai nhw sydd â'r "cynnig mwyaf hael o ran prentisiaethau" o unrhyw blaid - £28miliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer 140,000 o brentisiaethau dros dymor y Cynulliad.

Mae'r blaid yn dweud ei bod am helpu colegau addysg bellach i ddod yn ganolfannau dysgu i bobol o bob oed er mwyn datblygu gweithlu gyda sgiliau da.

Addewid Plaid Cymru yw dod i'r afael â'r "diffyg buddsoddi hanesyddol" yn addysg bellach yng Nghymru - a'i bwriad yw gwneud hynny drwy'r arbedion ddaw o'u polisi addysg uwch.

Mae Aled Wyn Davies, 18, o Langadog yn astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr ar gampws Gelli Aur.

Yn fab fferm, mae wedi bod yn astudio'r cymhwyster sy'n gyfwerth â Lefel A ers gadael yr ysgol ddwy flynedd yn ôl a'i obaith wedyn yw gwneud cwrs addysg bellach.

"Mae ffermio yn gallu bod yn waith unig," meddai.

"Mae'r coleg yn cynnig addysg a lle i gymdeithasu a lle i drafod amaethyddiaeth.

"Mae wedi rhoi lot o sgiliau o wahanol sectorau o fewn y diwydiant a gweld ochr busnes amaethu, nid dim ond y gwaith gydag anifeiliaid."

Mae Aled yn un o bron i ddau gan mil o bobol sy'n astudio mewn coleg, y gweithle neu'r gymuned a gobaith rheini yn y maes yw y byddan nhw'n uchel ar agenda'r llywodraeth newydd.