Teyrngedau wedi gwrthdrawiad A499 Y Ffôr

John Clift
Image caption Roedd John Clift yn 54 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad rhwng dau ambiwlans yng Ngwynedd ddydd Iau.

Roedd John Clift, oedd yn 54 ac o ardal Pwllheli, yn gyrru un o'r cerbydau oedd yn rhan o'r digwyddiad ar yr A499 rhwng y Ffôr a Llanaelhaearn.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Clift y byddai "colled mawr ar ei gan bawb".

Cafodd tri o bobl eraill eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad.

'Colled mawr ar ei ôl'

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu bod Mr Clift wedi "rhoi ei fywyd a'i yrfa i helpu eraill" drwy ei waith fel aelod o'r Gwasanaeth Tân ac Achub a'r Gwasanaeth Iechyd.

"Pan nad oedd yn gweithio roedd yn mwynhau treulio amser gyda'i deulu a gwylio ei hoff dim pêl-droed Manchester City ar y teledu," meddai'r datganiad.

"Roedd yn adnabyddus i lawer yn yr ardal ac yn boblogaidd, a bydd colled mawr ar ei ôl gan bawb."

Dywedodd Wayne Davies ar ran y Gwasnaeth Ambiwlans yng Ngwynedd a Môn: "Roedd John yn unigolyn dibynadwy, oedd yn wir yn un o'r tîm.

"Bydd colled mawr ar ei ôl gan bob un o'i gydweithwyr ym Mhwllheli a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn ehangach."

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wrth i'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad barhau.

Straeon perthnasol