Cloddio safle capel sy'n dyddio nôl i'r oesoedd canol

Whitesands Bay Image copyright PCNPA
Image caption Traeth Mawr, ger Tyddewi

Mae archeolegwyr yn gobeithio dod o hyd i fwy o wybodaeth am bobl oedd yn byw yng Nghymru dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, wrth iddynt gloddio safle capel sy'n dyddio nôl i'r oesoedd canol yn Sir Benfro.

Mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn dweud y byddant yn cynnal eu sesiwn olaf o gloddio ar safle Traeth Mawr, ger Tyddewi a hynny rhwng 9 Mai a 27 Mai. Cafodd nifer o'r sgerbydau eu darganfod mewn beddau ger safle sy'n agos i gapel hynafol sydd wedi ei gysegru i Sant Padrig.

Dywedodd Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, fod yr esgyrn mewn cyflwr da iawn.

Image copyright Dyfed Archaeological Trust
Image caption Ysgerbwd

"Fe fydd arbenigwyr o brifysgol Sheffield yn gallu darganfod gwybodaeth am ddiet y bobl sydd wedi eu claddu yma, a hyd yn oed pryd gawsant eu geni," meddai.

"Fe fydd canlyniadau y cloddio yn ehangu ein gwybodaeth am y bobl oedd yn byw yng Nghymru dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl."

Yn ôl chwedl hanes, y capel sydd ar Draeth Mawr yw'r safle lle gadawodd Sant Padrig o Gymru am Iwerddon yn y pumed ganrif. Mae'r capel wedi bod yn adfail ers dros 400 o flynyddoedd.

Mae nifer o sgerbydau wedi eu darganfod dros y blynyddoedd.

Dros ddegawd yn ôl fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro osod cerrig mawr wrth safle'r capel er mwyn atal erydu, ond cafodd y cerrig eu hysgubo i'r môr yn dilyn stormydd yn 2014.

Bryd hynny, daeth sawl bedd arall i'r amlwg.

"Felly fe wnaed penderfyniad i gloddio'r rhannau o'r safle oedd yn dioddef waethaf o erydiad," meddai Phil Bennett, rheolwr diwylliant ac etifeddiaeth gydag Awdurdod y Parc."

.