Academyddion sy'n cefnogi Llafur: Plaid Cymru yn yr ail bleidlais?

Gerry Holtham
Image caption Mae'r Athro Gerry Holtham yn gyn-ymgynghorydd Llywodraeth Cymru

Dylai pleidleiswyr Llafur roi eu hail bleidlais i blaid fel Plaid Cymru, mae grŵp o academyddion sy'n cefnogi Llafur, gan gynnwys Gerry Holtham, wedi dweud.

Mewn etholaethau lle mae Llafur yn gwneud yn dda, dywed yr awduron ei fod "yn gwneud synnwyr" i bleidleiswyr "gynorthwyo plaid flaengar fel Plaid Cymru" a "rhwystro unrhyw blaid sy'n delio mewn ofn a rhagfarn".

Mae'r awduron yn rhybuddio y bydd yn rhaid i Lafur gydweithredu gyda phlaid arall. Ond dywedodd Llafur mai'r unig ddewis oedd rhyngddynt hwy a "chlymblaid racs".

Llofnodwyd y llythyr gan gyn ymgynghorydd arbennig i David Miliband, Ian Hargreaves, cyn-ymgynghorydd Llywodraeth Cymru, Yr Athro Gerry Holtham a chadeirydd ymgyrch Ie dros Gymru yn 1997, yr Athro Kevin Morgan.

Fe'i llofnodwyd hefyd gan ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru Dr Hywel Ceri Jones, cyn AS Llafur David Marquand a chyn economegydd Awdurdod Datblygu Cymru, Yr Athro Brian Morgan.

'Cynorthwyo plaid flaengar'

Mae'r llythyr yn dweud: "Fel cefnogwyr y Blaid Lafur ers amser hir, rydym wedi ymrwymo yn llwyr i ddychwelyd Llywodraeth Lafur yng Nghymru yr wythnos nesaf.

"Ond os yw'r polau yn gywir, ni fydd Llafur yn sicrhau mwyafrif yn etholiad y Cynulliad ac felly bydd yn rhaid cydweithredu mewn rhyw ffurf gyda phlaid arall.

"Ble mae Llafur yn gwneud yn dda yn yr adran etholaeth, mae'n gwneud yn wael yn yr adran rhestr ranbarthol, a dyna pam mae cymaint o bobl yn meddwl bod ail bleidlais i Lafur mewn ardaloedd o'r fath - fel de Cymru, er enghraifft - yn bleidlais wastraff.

"Yn yr ardaloedd hyn mae'n gwneud synnwyr i bleidleiswyr i fwrw eu pleidlais mewn modd pwrpasol- i gynorthwyo plaid flaengar fel Plaid Cymru ac i rwystro unrhyw blaid sy'n delio mewn ofn a rhagfarn".

'Byd gwleidyddol newydd'

Mae'r llythyr yn ychwanegu bod "byd gwleidyddol newydd" yn dod i'r amlwg sy'n "fwy cymhleth, yn fwy ansicr ac yn fwy heriol nag erioed o'r blaen."

Mae'r academyddion yn dweud "nad oes gan un blaid unigol yr wybodaeth a'r doniau i ymdrin yn effeithiol â'r byd hwn".

Maent yn ychwanegu: "Er mwyn ateb yr heriau hyn mae angen i'r Blaid Lafur i fod yn ganolbwynt mudiad gwleidyddol blaengar a gallwn ddechrau yng Nghymru yr wythnos nesaf."

Dywedodd ffynhonnell yn Llafur Cymru: "Y dewis mae pobol yn ei hwynebu ddydd Iau nesaf yw rhwng Llywodraeth Lafur a chlymblaid racs.

"Pleidleisio dros Lafur Cymru yw'r unig ffordd i atal UKIP yng Nghymru."

Ymateb

Ond mae UKIP yn dweud bod y sylwadau yn "sarhaus ac yn ffordd o godi bwganod".

"Pa mor drahaus i arddel na ddylai'r ganran sylweddol o bobl sydd yn cefnogi UKIP gael AC o'r blaid yn eu cynrychioli."

Maent yn dweud bod hyn yn 'elitaidd' ac nad ydy'r bobl sydd wedi gwneud y sylwadau yn 'haeddu llwyfan'.

"Mae UKIP yn ymgyrchu i gael gwell buddsoddiad yn y GIG, gwella gofal canser yng Nghymru, system addysg ddeinamig sydd wedi ei theilwra fel bod bob plentyn yn medru cael y cyfle gorau a gwell datblygiadau economaidd i hybu busnesau Cymru, sydd yn ôl y bobl yma sydd yn galw eu hunain yn 'academyddion' yn bethau dychrynllyd."

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro Simon Thomas:

"Mae'n wir fod angen i'r sawl sydd eisiau gweld Cymru yn dilyn llwybr blaengar wedi Mai'r 5ed bleidleisio dros Blaid Cymru.

"Mae Llafur wedi profi eu bod, wedi dwy flynedd ar bymtheg mewn llywodraeth, yn brin o nerth a syniadau. Mae'n bryd cael plaid all gwrdd â'r her sy'n wynebu Cymru - Plaid Cymru yw'r newid y mae ar Gymru ei angen."

Mae llefarydd ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod hyn yn arwydd bod y blaid Lafur yn nerfus ddyddiau cyn yr etholiad. "Yn y pendraw does dim byd yn adeiladol ynglŷn â chael pum mlynedd arall o fethiant Llafur ac mi fyddwn ni'n parhau i gynnig dewis arall i bleidleiswyr a gweledigaeth er mwyn sicrhau newid go iawn yng Nghymru."



Sut mae bwrw pleidlais?

Mae etholwyr yn cael dau bapur pleidleisio ar gyfer etholiad y Cynulliad.

Mae un yn caniatáu pleidlais ar gyfer ymgeiswyr yn eich etholaeth leol. Rydych yn pleidleisio dros blaid wleidyddol ar bapur pleidleisio arall.

Fe all y bleidlais ar gyfer plaid wleidyddol fod yr un blaid â'r sawl a gafodd eich pleidlais yn yr etholaeth, neu fe allai fod yn wahanol.

Mae'r bleidlais ar yr ail bapur pleidleisio yn rhan o'r broses o ddewis 20 o aelodau i gynrychioli rhanbarthau.

Y drefn 'cyntaf i'r felin' sy'n cael ei defnyddio i ethol y 40 AC etholaethol - ble mae`r ymgeisydd sydd â'r nifer fwya' o bleidleisiau yn ennill y sedd.

Ar gyfer seddi rhanbarthol mae'r darlun yn fwy cymleth. Mae Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn ennill seddi ar sail:

  • Cyfran y bleidlais ar y papur pleidleisio sy'n cynnwys pleidiau gwleidyddol;
  • Faint o etholaethau mae ACau sy`n cynrychioli pleidiau gwleidyddol wedi ennill y noson honno.

Felly os yw Llafur yn cael cefnogaeth fawr mewn rhanbarth, ond eisioes wedi ethol nifer o ACau drwy'r system etholaethau, yna dydy o ddim o reidrwydd yn golygu y byddan nhw'n cael sedd ranbarthol ychwanegol.

Straeon perthnasol