Abertawe 3-1 Lerpwl

Pel droed Image copyright Reuters

Mae Abertawe yn saff o'i lle yn yr uwch gynghrair wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr ymwelwyr Lerpwl.

Golygodd peniad gan Andre Ayew a gôl arall gan Jack Cork bod yr Elyrch ar y blaen o 2-0 wedi'r hanner cyntaf.

Tarodd yr ymwelwyr yn ôl gyda gôl gan Christian Benteke ond rhwydodd Andre Ayew eto gan chwalu gobeithion Lerpwl.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Lerpwl wrth i un o'i chwaraewyr gael ei anfon o'r cae.

Cafwyd munud o gymeradwyaeth cyn y gêm a hynny yn arwydd o barch tuag at deuluoedd y 96 o bobl gafodd eu lladd yn Hillsborough yn 1989.

Mae'r fuddugoliaeth o 3-1 yn golygu bod Abertawe yn codi i'r 13eg safle yn y gynghrair.