Pedair awr i achub dyn o geunant yn Eryri

Achub Image copyright Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Bu'n rhaid i dimau achub ddefnyddio rhaffau i achub dyn oedd wedi ei anafu mewn ceunant yn Eryri brynhawn Sadwrn.

Cafodd pedwar o dimau achub mynydd eu galw am nad oedd hofrennydd yn medru cyrraedd y dyn yng ngheunant Maentwrog.

Roedd wedi brifo ei ffêr.

Defnyddiwyd rhaff a gwely cludo i'w nôl.

Fe gymerodd hi bedair awr i'w achub ac fe gafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.