Tân mewn ysgol wedi ei gynnau'n fwriadol

Tan

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y tân mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân wedi ei gynnau yn fwriadol.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw i Ysgol Gynradd Dewis Sant tua 20:10 ddydd Sadwrn.

Dywed y Gwasanaeth fod ymchwiliad wedi cadarnhau i'r tân gael ei gynnau yn fwriadol ac y bydd yna ddiogelwch ychwanegol yn yr ardal cyn i'r ysgol ailagor ddydd Iau.

Dechreuodd y tân mewn storfa y tu allan i'r prif adeilad.

Roedd y fflamau wedi lledu i ystafell ddosbarth gan achosi rhywfaint o ddifrod.