Ymgyrchwyr yn annog pobl i beidio â phleidleisio i UKIP

ukip

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi annog pobl i beidio â phleidleisio dros UKIP yn etholiad y Cynulliad, gan honni fod y blaid yn hyrwyddo "gwleidyddiaeth o ofn".

Mae taflen gan fudiad 'Hope Not Hate' yng Nghaerdydd yn cyfeirio at ymgeisydd UKIP, Gareth Bennett, fel "Donald Trump Cymru" wedi iddo feio problemau sbwriel ar fewnfudwyr.

Maent hefyd yn ymosod ar ymgeisydd arall UKIP, Neil Hamilton, wrth gyfeirio ato fel y "Gwleidydd Torïaidd Alltud sydd yn ei ôl."

Honnodd llefarydd ar ran UKIP fod mudiad 'Hope Not Hate' yn "ffynnu ar gasineb yn hytrach na dadl a thrafodaeth".

Mae mudiad 'Hope Not Hate', yn dweud eu bod yn ymgyrchu i ddarparu "ymateb cadarnhaol i wleidyddiaeth o ofn", ac maent yn dweud eu bod yn gweld UKIP fel "plaid ymrannol".

"Maent yn ceisio ymelwa o densiynau cymunedol feio lleiafrifoedd ar nifer o faterion," meddai llefarydd.

"Mae ganddynt hawl i wneud hynny fel plaid wleidyddol gyfreithlon, fel mae gennym ni hawl i wrthwynebu'r blaid," ychwanegodd.

Image caption Mae taflen 'Hope Not Hate' yn cyfeirio at ymgeisydd UKIP, Gareth Bennett, fel "Donald Trump Cymru"

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Mae 'Hope Not Hate' yn sefydliad sy'n ffynnu ar gasineb, sy'n eironig o ystyried yr hyn y maent yn honni i ni fod yn sefyll amdano, a hynny yn dilyn eu hymgyrch i bardduo unigolion personol yn hytrach na chofleidio dadl wleidyddol go iawn.

"Wrth gwrs, maent yn derbyn llawer iawn o'u cyllid gan yr undebau, ac felly ni ddylid eu hystyried yn ddim mwy na sefydliad i gynrychioli'r Blaid Lafur, fel un o'u cŵn sy'n ymosod.

"Maent yn annymunol iawn ac fe ddylid eu hanwybyddu."

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y gall UKIP ennill eu sedd gyntaf erioed yn y Cynulliad yn yr etholiad ddydd Iau.