Da ydy darogan

Un o'r straeon digri o'r etholiad yma oedd yr holl ffwdan ynghylch teyrnged Jonathan Edwards i'w gyd-bleidiwr Adam Price mewn taflen etholiad. Gan taw fi oedd y cyntaf i gyfeirio at Adam fel y "mab darogan" cedwais yn dawel ynghylch y peth! Ta waeth, os ydych chi eisiau barnu ai cellwair neu glod oedd y cyfeiriad mae'r post gwreiddiol o nôl yn 2009 yn fan hyn.

Yn y cyfamser, mae'n bryd i mi fy hun wisgo gŵn y dyn hysbys a cheisio darogan rhyw ychydig ynghylch yr hyn allasai ddigwydd nos Iau.

Dydw i ddim am ailadrodd yr hyn y mae'r arolygon cenedlaethol yn dangos na cheisio cymhwyso'r arolygon hynny ac etholaethau unigol. Yn hytrach na gwneud hynny rwyf am drin y rasys etholaethol fel deugain isetholiad a cheisio dyfalu yn y lle y gallasai 'na fod canlyniadau annisgwyl neu anarferol.

Dyma nhw felly - yn seiliedig ar sgyrsiau a sibrydion dyma i chi llond dwrn o etholaethau i gadw llygad arnynt nos Iau. Mae'n ddigon posib na fydd yr un ohonynt yn newid dwylo - ond dyma ambell i sedd lle mae sioc yn bosib.

Y sedd gyntaf i ddod mas o'r het yw Ceredigion etholaeth lle mae mwyafrif Elin Jones wedi bod yn gostwng yn gyson er iddi ennill y sedd gyntaf yn ôl yn 1999. 10,249 oedd y mwyafrif bryd hwnnw. 1,777 oedd yr adwy yn 2011. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn taflu popeth at y sir ond dyw Plaid Cymru ddim wedi bod yn gorffwys ar ei rhwyfau. Yn sicr mae'n un i wylio.

Dwy sedd yn y cymoedd sydd nesaf sef Caerffili a'r Rhondda. Os ydy Plaid Cymru'n cipio sedd yn y de diwydiannol y tro hwn rwy'n tybio mai un o'r ddwy yma fydd hi.

Caerffili sydd debycaf o syrthio, yn fy marn i, gan fod y trothwy i'w hennill yn debyg o fod llawer yn is nac yn y Rhondda. Gallasai ychydig dros draean o'r bleidlais fod yn ddigon i ennill Caerffili. Mae'n debyg y bydd angen llawer mwy na hynny i ennill yn y Rhondda.

Lan a ni i'r gogledd ddwyrain nesaf. Ar gychwyn yr ymgyrch y rhanbarth hwn oedd yn cael ei ystyried fel prif faes y gad rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr gyda hyd at bedair sedd Llafur mewn peryg. Dyw hynny ddim wedi newid rhyw lawer. Dyffryn Clwyd yw prif darged y Ceidwadwyr o hyd ond mae'n bosib y gallai un o sêr ifanc y Blaid Lafur, Ken Skates, ddisgwyl canlyniad agos hefyd.

Er mwyn cydbwysedd yn fwy na dim rwyf wedi bod yn crafu fy mhen i feddwl oes 'na unrhyw etholaeth y gallai Llafur ei chipio'r tro yma. Does 'na ddim, mewn gwirionedd, ond rwyf am grybwyll Aberconwy, sedd ymylol dair ffordd, gan ei bod wedi newid dwylo ym mhob un etholiad Cynulliad hyd yma. Fe fyddai'n stori pe bai rhywun y llwyddo i'w dal hi am unwaith!

I gwpla, gwyliwch mas am un sedd yn arbennig ar yr ochor ranbarthol sef yr un sy'n eiddo i Andrew RT Davies. Gan ddibynnu ar y canlyniadau etholaethol, gallai'r Ceidwadwyr golli sedd eu harweinydd am yr eil dro o'r bron o ganlyniad i'w penderfyniad rhyfedd braidd i beidio canatau i'w haelodau sefyll yn y ddau ddosbarth etholiadol.

A dyna ni. Pwysleisiaf unwaith yn rhagor nad y seddi uchod yw'r rhai mwyaf tebygol i newid dwylo - ond o blith y rhain y mae ambell i sioc yn debyg o ddod. Fe fyddwn yn gwybod yn ddigon buan.