Cyn bêl-droediwr, Mark Aizlewood, wedi ei gyhuddo o dwyll

Mark Aizlewood
Image caption Roedd Mark Aizlewood wedi chwarae i Gaerdydd, Bryste, Leeds a Charlton Athletic, yn ogystal â chynrychioli Cymru

Mae cyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Mark Aizlewood, ymhlith chwe dyn wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad â thwyll yn ymwneud â chynllun prentisiaethau pêl-droed.

Mae Mr Aizlewood, 56, o Aberdâr, wedi ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Twyll Difrifol.

Hefyd wedi ei gyhuddo mae cyn chwaraewr Middlesbrough, Paul Sugrue, 55, o Gaerdydd.

Y dynion eraill yw Christopher Paul Martin, o Newbury, Keith Anthony Williams, o Ynys Môn, Steven Paul Gooding, o Bridgewater, a Jack William Harper, o Southport.

Fe wnaeth y dynion ymddangos yn Llys Ynadon San Steffan ddydd Mercher yn dilyn ymchwiliad i gwmni Luis Michael Training Limited - cwmni sy'n honni i gynnig prentisiaethau i bobl ifanc.

Yr honiad yw bod y cwmni wedi cymryd taliadau gan golegau addysg bellach am hyfforddiant ac addysg na chafodd eu cwblhau.

Bydd y dynion yn ymddangos o flaen barnwr yn Southwark fis nesaf.

Image copyright Google