Angen moderneiddio'r Orsedd?

Eisteddfod
Image caption Bydd aelodau o'r orsedd yn gwisgo penwisgoedd newydd eleni

Tri mis cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni, mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd wedi eu cyhoeddi.

Mae ambell i wyneb cyfarwydd ymysg y detholion, fel yr actor Gwyn Elfyn - neu 'Denzil' Pobol y Cwm. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r sêr Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams, i gyd wedi'u hurddo.

Ond does dim un person o leiafrif ethnig ar y rhestr eleni eto chwaith. Felly ydy hyn yn rywbeth sy'n poeni'r dyn sy'n arolygu gweithgareddau'r Orsedd, y cofiadur Penri Roberts?

"Mae hi'n broses hollol ddemocrataidd - mae'n haelodau ni'n cael ethol neu eilio unrhyw un sydd wedi gwneud cyfraniad i'w meysydd," meddai. "I fod yn aelod o'r Orsedd, mae'n rhaid i chi allu siarad Cymraeg - dyna'r unig reol.

"Dwi'n meddwl fod yr aelodau wedi'u hollti'n weddol rhwng dynion a merched - a synnwn i ddim fase 'na fwy o ferched erbyn hyn.

"Dwi'm yn meddwl fod 'na lawer o bobl ethnig wedi'u hurddo, nac'dw. Ond os oes 'na ddiffyg, un peth sy'n sicr ydy bod 'na neb yn cael eu derbyn ar y sail eu bod nhw'n dod o gefndir ethnig neu fel arall.

"Mae' 'na tua 2,000 o aelodau ond does 'na'r un o'r swyddogion yn cael enwebu nag eilio ac mae'r broses yn un deg.

"Mae 'na drawsdoriad o bobl yn cael eu hurddo bob blwyddyn, gan gynnwys y rheiny sy'n gwneud cyfraniadau'n lleol."

Image caption Y bardd a'r cerddor Benjamin Zephaniah yn gwylio'r seremoni urddo y llynedd. Tybed os yw'n meddwl fod digon o bobl o leiafrif ethnig ymysg yr aelodau?

'Casáu'r penwisgoedd'

Bydd yna benwisgoedd newydd eleni a fydd yn cael eu gweld am y tro cyntaf yn y seremoni gyhoeddi yng Nghaergybi ar 25 Mehefin.

"Roedd yn gás gan yr aelodau y penwisgoedd ac mi yda ni wedi ymateb," meddai Penri Roberts. "Mae'r aelodau wedi codi dros £7,000 i gael y rhai newydd."

Ond ydy'r Orsedd yn gwneud digon i symud gyda'r amser ac i apelio i'r to ifanc, yn enwedig o ystyried fod llai o bobl yn sefyll yr arholiad i ymaelodi â Gorsedd y Beirdd erbyn hyn?

"Dwi'n meddwl ein bod ni'n moderneiddio bob blwyddyn," ychwanegodd. "Ymysg y to ifanc - mae 'na fwy o ddiddordeb rwan nag erioed. Mae 12 yn cael eu hurddo trwy radd eleni, ac mae hynny'n digwydd bob blwyddyn bellach."

Felly oes gan Orsedd y Beirdd, un o draddodiadau hynaf y Gymraeg, le o hyd yn y Gymru fodern?

"Mae o'n hollol Gymreig - yr unig system o anrhydeddu ein cenedl sydd gennym ni. Mae hi'n bwysig iawn," meddai Penri Roberts.

"Dwi'n cofio [y cyn bêl-droediwr a'r sylwebydd] Malcolm Allen yn dweud wrtha'i ar y diwrnod gafodd o'i urddo: 'Dwi wedi chwarae i Newcastle, Norwich ac i Gymru, ond hwn ydy diwrnod gora' 'mywyd i.' Mae'n dal i olygu lot i bobl."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf-6 Awst.