3,000 o bobl wedi diflannu yn y gogledd, medd yr heddlu

Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Gareth Pritchard
Image caption Yn ôl Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, mae'n rhaid i'r heddlu ymateb os oes yna berygl i fywyd

Mae Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod yr heddlu'n treulio mwy o amser erbyn hyn yn chwilio am bobl sydd ar goll.

Yn ôl Gareth Pritchard, yn y flwyddyn hyd at fis Tachwedd y llynedd, roedd y llu wedi ymchwilio i adroddiadau am dros 3,000 o bobl oedd wedi diflannu.

Dywedodd wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru: "Mae llai na 20% o'n galwadau ni rŵan i wneud efo troseddau, ac yn y flwyddyn i fis Tachwedd diwetha' wnaetho' ni gael galwadau am dros 3,000 o bobl oedd ar goll, 21% o'r bobl yma wedi bod ar goll fwy nag unwaith - felly fedrwch chi weld o'r ffigurau yna bod hi'n broblem sylweddol.

"Ond wrth gwrs pan mae 'na berygl i fywyd, gwaith yr heddlu ydi ymateb.

"'Da ni felly yn delio 'efo nifer o bobol sydd wedi bod ar goll, mae ganddo' ni 30 o bobol sydd wedi bod ar goll mwy na wyth o weithiau."

Mae'r heddlu'n gorfod ymateb i alwadau am bob math o sefyllfaoedd - yn cynnwys pobl oedrannus â dementia sy'n crwydro o'u cartrefi, oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl, plant ar goll, cerddwyr ar goll ar fynyddoedd, a phobl ifanc yn eu harddegau sy'n rhedeg i ffwrdd.

Bu'r dirprwy brif gwnstabl yn siarad â rhaglen Manylu, sydd wedi cael mynediad at waith yr heddlu a siarad gyda theuluoedd dau o bobol sydd wedi bod ar goll ers dros fis bellach.

Michael ac Avril

Ddechrau Ebrill, fe ddiflannodd Michael Bryn Jones o Landudno, ac Avril Whitfield o Gaernarfon, o fewn deuddydd i'w gilydd. Roedden nhw ymysg y 32 o bobol yn y gogledd aeth ar goll yn ystod wythnos gyntaf y mis - a nhw yw'r unig rai sydd yn dal heb eu canfod.

Image caption Chris Evans, modryb Michael Bryn Jones, sydd ar goll ers dros fis.

Dros yr wythnosau diwethaf mae teulu a ffrindiau'r ddau, y gymuned ehangach, a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn ceisio dod o hyd iddyn nhw.

Mae Chris Evans, o Landudno, yn fodryb i Michael Bryn Jones ac wedi gyrru cannoedd o filltiroedd yn ei char i geisio dod o hyd i'w nai. Fe aeth o i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar nos Sadwrn 2 Ebrill, y tro diwethaf i unrhyw un o'i deulu ei weld.

Meddai ei fodryb: "Oes 'na rywle 'da ni ddim wedi bod? 'Da ni wedi cael response ffantastig gan ei ffrindiau a gan y cyhoedd hefyd - mynd yn eu ceir, edrych rownd, pobol yn 'neud posteri a rhoi nhw allan. 'Da ni wedi edrych bob man 'da ni'n meddwl fasa'n bosib bod o wedi mynd i, a 'da ni wedi edrych mewn llefydd 'da ni ddim yn meddwl fasa fo wedi mynd i erbyn rŵan. Nes i resetio mileage y car, a mae o ar 780 rwbath rŵan. Faswn i'n 'neud o eto os bo' raid - 'da ni jest yn mynd i'w ffeindio fo."

Image caption Mae pobl Caernarfon wedi bod yn chwilio am Avril ers mis Chwefror.

Mae teulu a ffrindiau Avril Whitfield hefyd wedi bod yn chwilio amdani ers iddi ddiflannu ar 1 Ebrill, a'r heddlu wedi bod allan sawl gwaith.

Cwnstabl Arwel Jones oedd y cyntaf i wneud ymholiadau ar ôl i'w theulu gysylltu gyda'r heddlu'r diwrnod y diflanodd hi.

Meddai: "Roedd hi'n dywydd eitha' mawr - aetho' ni allan i chwilio - allan ar hyd y lonydd bach, cycle paths a phethau felly jest rhag ofn basa hi wedi mynd i fanna i gael llonydd - bob man oedda ni'n gallu mynd ar y noson honno roedda' ni'n mynd i chwilio amdani."

Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy sgwrs fyw ar y we.

Manylu, 12:30 ddydd Iau 5 Mai, ac eto am 16;00 ddydd Sul 8 Mai ar BBC Radio Cymru.