Terry Jones yn pledio'n ddieuog i droseddau rhyw honedig

llys ynadon Dolgellau Image copyright Google

Mae dyn 67 oed o Flaenau Ffestiniog wedi pledio'n ddieuog i 10 o droseddau rhyw honedig yn ymwneud â bachgen 11 i 15 oed rhwng 1995 a 1999.

Wrth ymddangos gerbron llys ynadon Dolgellau, plediodd Terry Jones yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau.

Cafodd yr achos yn ei erbyn ei drosglwyddo i Lys y Goron Caernarfon i ddechrau ar 6 Mehefin.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.