Achos John Reaney: Rhyddhau rheithgor o'u dyletswyddau

Llys y Goron Caernarfon Image copyright Google
Image caption Dywedodd y rheithgor eu bod wedi methu â dod i benderfyniad

Mae'r rheithgor wedi eu rhyddhau o'u dyletswyddau yn achos cyn gynghorydd tre sydd yn gwadu annog bachgen 14 oed i gyflawni gweithred rhyw.

Dywedodd y rheithgor eu bod wedi methu â dod i benderfyniad ar ôl pedair awr o drafod yn achos John Reaney, 50 oed o Hen Golwyn.

Dywed yr erlyniad eu bod am geisio am achos newydd.

Roedd Llys y Goron Caernarfon wedi clywed iddo gwrdd â'r bachgen ar wefan Grindr. Mae Mr Reaney, sy'n gyn aelod o gyngor Bae Colwyn, wedi'i ryddhau ar fechniaeth.