Llyn Padarn: Ymchwilio i achos o lygredd

Yr achos o lygredd Image copyright Cyfoeth Naturiol Cymru
Image caption Yr achos o lygredd

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos o lygredd yn Llyn Padarn yn Llanberis.

Dywedodd llefarydd eu bod yn credu fod baw neu laid wedi dod i'r llyn o Afon Las. ger Nant Peris,

Ychwanegodd y llefarydd "nad oedd y digwyddiad yn gysylltiedig â charthion".

Yn gynharach yr wythnos hon gwelwyd cloddiwr mawr wrth lan Afon Las, fel rhan o'r gwaith ar gynllun hydro-electrig, ond nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru am gadarnhau ffocws ei ymchwiliad.