Llyncdwll mewn ffordd yng Nghaerdydd

Stryd Talygarn

Mae llyncdwll tua thair troedfedd o ddyfnder wedi ymddangos mewn ffordd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi clywed am y twll 0.9m ar Stryd Talygarn, yn ardal Mynydd Bychan y ddinas, tua 18:00 ddydd Iau.

Mae adran priffyrdd Cyngor Caerdydd yn ymdrin â'r broblem, ychwanegodd yr heddlu.