Slade yn gadael ei swydd fel rheolwr Caerdydd

Russell Slade Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Bu wrth y llyw ers Hydref 2014.

Mae Russell Slade yn gadael ei swydd fel rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd a byddan nhw'n penodi prif hyfforddwr newydd.

Ond bydd Slade yn parhau i weithio i'r clwb, trwy oruchwylio'r sgowtio, ymhlith dyletswyddau eraill.

Fe fydd wrth y llyw am y tro olaf pan fyddan nhw'n wynebu Birmingham wrth i'r tymor yn y Bencampwriaeth ddod i ben ddydd Sadwrn.

Ymunodd Slade â Chaerdydd ym mis Hydref 2014 o Leyton Orient ac roedd wedi dweud ei fod am aros gyda'r Adar Gleision.

Bu'n cynnal trafodaethau gyda'r cadeirydd Mehmet Dalman yn dilyn y golled yn Sheffield Wednesday a ddaeth â'u gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle i ben.

Mae Slade wedi mynnu ei fod wedi gwneud 'cynnydd' 'yng Nghaerdydd y tymor hwn gyda'r Adar Gleision.

Straeon perthnasol