West Ham 1-4 Abertawe

Andre Ayew celebrates as Darren Randolph and Aaron Cresswell show their dejection Image copyright PA
Image caption Andre Ayew yn dathlu

Parhau i wella mae perfformiadau Abertawe wrth i'r tymor ddirwyn i ben gyda buddugoliaeth ysgubol yn West Ham.

Wayne Routledge fanteisiodd ar groesiad Kyle Naughton i roi'r ymwelwyr ar y blaen a hynny yn erbyn rhediad y chware.

Aeth yr Elyrch ddwy ar y blaen diolch i Andre Ayew, a hynny yn dilyn croesiad Stephen Kingsley.

Doedd dim amheuaeth am y canlyniad ar ôl i Ki Sung-yueng ychwanegu trydedd gôl Abertawe, er i Diafra Sakho sgorio gôl gysur wedyn.

Ond roedd dal digon o amser i'r eilydd Bafetimbi Gomis rwydo eto i'r ymwelwyr.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn codi dau safle i rif 11 yn yr Uwch Gynghrair, ac mae yna gyfle i orffen y tymor yn yr hanner uchaf pe bai nhw'n curo Manchester City ar Stadiwm y Liberty ddydd Sul nesa.