Caeredin 17-21 Gleision

rygbi

Fe wnaeth y Gleision gau bwlch o ddeg pwynt cyn sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Caeredin yn y Pro12.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y Gleision yn gorffen y tymor yn y seithfed safle.

Roedd buddugoliaeth yn edrych yn debyg o safbwynt Caeredin yn yr hanner cyntaf ar ôl ceisiadau gan Hamish Watson, Matt Scott a Tom Brown.

Tarodd Rey Lee-Lo yn ôl wedi'r egwyl, ac yna fe lwyddodd Cam Dolan a Garyn Smith i groesi.