Wimbledon 1-0 Casnewydd

Fe wnaeth cic o'r smotyn gan Toyosi Olusanya yn hwyr yn y gêm sicrhau buddugoliaeth i Wimbledon yn erbyn Casnewydd.

Fe ddyfarnwyd y cig gosb ar ôl trosedd gan Ben Davies yn erbyn Olusanya.

Golygai'r canlyniad fod Casnewydd wedi chwarae 11 gem heb fuddugoliaeth.

Roedd tîm Warren Feeney eisoes wedi sicrhau tymor arall yn yr ail adran, gyda bwlch o naw pwynt rhyngddynt a'r timau ar y gwaelod.

Bu'n rhaid atal y gêm am 10 munud yn yr ail hanner ar ôl i Connor Smith o Wimbledon ddioddef anaf i'w ben.