Zebre 47-22 Dreigiau

Jack Dixon Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Dreigiau golli am y degfed tro yn olynol yn y Pro 12, wrth i Zebre sicrhau eu lle nhw yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesa.

Doedd Zebre heb ennill mewn 10 gêm, ond fe wnaethant sicrhau pwynt bonws gyda phum cais.

Daeth 22 o bwyntiau o esgid y maswr Carlo Canna.

Bach iawn o gysur oedd yna i'r Dreigiau wrth i Rynard Landman (2) a'r asgellwr Hallam Amos groesi.

Mae'r Dreigiau yn gorffen yn y 10fed safle.