Seremoni i gofio arwr rhyfel

Flight Sergeant Ronald Levis Image copyright Aber Valley Heritage Group

Fe fydd seremoni arbennig yn cael ei chynnal yn ardal Senghennydd er cof am arwr lleol gafodd ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd, Ronald Levis, sarjant gyda'r Awyrlu, ei ladd yn Ionawr 1942 ond oherwydd camgymeriad ni chafodd ei enw ei gynnwys ar gofeb yn ei dref enedigol.

Daeth y camgymeriad i'r amlwg diolch i ddyn lleol 95 oed oedd yn adnabod y teulu.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod Sarjant Levis yn aelod o griw awyren wnaeth gwympo i'r ddaear ger Oban yn yr Alban.

Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Caerffili, mae cofeb Senghennydd wedi ei adnewyddu i gynnwys ei enw.

Fe aelodau o'i deulu, ac aelodau o deulu ei hen gariad yn mynychu gwasanaeth dydd Sul.

Bydd torchau o flodau yn cael eu gosod gan grŵp Etifeddiaeth Cwm Aber, y cyngor cymuned a chynrychiolwyr yr Awyrlu .

Dywedodd Gill Jones, ysgrifennydd y grŵp etifeddiaeth "Rydym yn creu ei fod wedi bod yn addas i sicrhau fod ei enw ar y gofeb, a hynny ymhlith y rhai erial wnaeth yr aberth fwyaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.