Mark Williams yw arweinydd y Dem-Rhydd yng Nghymru

Mark Williams
Image caption Mark Williams yw AS Ceredigion

Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams yw arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae'n olynu Kirsty Williams ar ôl iddi hi roi'r gorau i'w swydd ar ôl canlyniadau trychinebus y blaid yn Etholiad y Cynulliad.

Dywedodd Mr Williams, unig AS y blaid yng Nghymru, fod y newyddion yn "anrhydedd mawr."

"Fe fydd y blynyddoedd nesaf yn brawf o ran fflam rhyddfrydiaeth, ac fe fyddaf yn gwneud bopeth posib i sicrhau fod y fflam yn cynnau eto ar hyd a lled ein gwlad," meddai.

Cafodd Mr Willaims ei benodi ar ôl cyfarfod o bwyllgor gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol ddydd Sadwrn.

Image caption Kirsty Williams