Dyn wedi marw yn dilyn damwain rhwng sawl cerbyd

Heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth dyn 50 oed wedi gwrthdrawiad ddydd Sul. Digwyddodd y ddamwain rhwng un beic modur Yamaha a nifer o gerbydau eraill ar yr A496 rhwng Dolgellau a Bontddu tua 3 y prynhawn.

Dyw hi ddim yn glir a oedd y dyn yn gyrru'r beic modur.

Roedd y dyn yn dod o Swydd Gaer ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu yn gofyn i dystion i gysylltu gyda nhw.