Be nesa?

Huw Edwards (chwith) yn llywio Dadl yr Arweinwyr cyn i etholwyr Cymru bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad
Image caption Huw Edwards (chwith) yn llywio Dadl yr Arweinwyr cyn i etholwyr Cymru bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad

Mae 60 o aelodau wedi eu dewis i wasanaethu ym mhumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn yr etholiad ar 5 Mai.

Unwaith yn rhagor Llafur yw'r blaid fwyaf ond beth yw goblygiadau'r canlyniad i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac i'r pleidiau eraill ym Mae Caerdydd? Huw Edwards sy'n dadansoddi'r canlyniadau ar ran Cymru Fyw:


Newid patrwm?

'Y mae gwleidyddiaeth Brydeinig wedi darfod'. Datganiad moel yr Athro John Curtice oedd hwnnw yn ystod rhaglen Etholiad 2016 yn oriau mân bore Gwener. Ond peth peryglus fyddai cymryd bod yr hen batrymau cyfarwydd wedi darfod ym mhob man.

Mae'r Alban a Llundain ill dau yn cynnig ambell wers ddiddorol i ni yng Nghymru o ran systemau pleidleisio a'r canlyniadau sy'n cael eu cynhyrchu ganddyn nhw.

Bu sawl cynnig ar lunio penawdau: Leanne Wood a Phlaid Cymru yn llorio Leighton Andrews a Llafur yn y Rhondda (gogwydd anhygoel o 24%); saith aelod o UKIP yn mynd i'r Senedd; Llafur yn dal eu gafael ar Lanelli, Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd; methiant y Ceidwadwyr yng Nghymru i efelychu llwyddiant etholiad 2015; a buddugoliaeth arbennig i Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Ond beth am bennawd bras arall? Sef bod Llafur Cymru wedi colli un sedd yn unig er bod eu pleidlais wedi gostwng yn sylweddol (7% yn yr etholaethau, 10% yn y rhanbarthau). Dylai hynny, hefyd, fod yn destun trafod.

Image caption Buddugoliaeth fawr i Blaid Cymru a Leanne Wood yn y Rhondda ond cadwodd Llafur eu gafael ar seddau allweddol eraill fel Gogledd Caerdydd a Llanelli

Natur y bleidlais

Lluniwyd y system i gynnwys an element of proportionality (ymadrodd dienaid o niwlog) ac mae'n werth oedi am funud i ystyried ei heffeithlonrwydd. System yw hon (AMS neu 'Additional Member System') sy'n debyg i'r drefn yn yr Alban, yr Almaen a Seland Newydd.

Fel y gŵyr y mwyafrif o ddarllenwyr erbyn hyn, mae'n siŵr, mae gan bawb ddwy bleidlais, sef un i'r ymgeisydd unigol yn yr etholaeth, a'r llall i'r blaid yn y rhanbarth.

Y peth hanfodol bwysig yw'r balans rhwng y ddwy elfen. Etholir 40 aelod (ar sail system cyntaf i'r felin) o'r etholaethau, ac 20 'ychwanegol' (ar sail y system ranbarthol). Y mae pob rhanbarth yn anfon pedwar aelod i Gaerdydd. Mae'r pedwar yn cael eu dewis yn unol â chanllawiau d'Hondt (y mathemategydd o Wlad Belg a ddyfeisiodd y system). Pwrpas y cyfuniad hwn yw creu canlyniad cenedlaethol sy'n fwy 'cyfrannol'.

Image caption Mae UKIP wedi elwa o'r system bledleisio gyfrannol gan ennill saith sedd ranbarthol

Ond ai dyna'r realiti?

Effaith y fformiwla 40/20 yng Nghymru, yn ôl sawl arbenigwr academaidd, yw bod y system yn ymateb yn llafurus o araf i unrhyw newid barn ymhlith yr etholwyr. A dyna sydd i'w gyfrif, medden nhw, am y ffaith bod 29 aelod Llafur Cymru wedi dychwelyd i'r Senedd er i'w plaid golli dros 8% o'i chefnogaeth (ar gyfartaledd) ar draws Cymru.

Y mae fformiwla'r Alban (sef 73/56) yn rhoi llawer mwy o ddylanwad i'r rhanbarthau, ac oherwydd hynny yn fwy 'cyfrannol', yn ôl John Curtice a'i debyg. Y mae llwyddiant yr SNP, yn y cyd destun hwnnw, hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Ond ystyriwch system yr Almaen. 299/331 yw'r fformiwla yn y wlad honno! Hynny yw, etholir 299 aelod unigol o'r etholaethau i'r Bundestag, a 331 o'r rhanbarthau, sef cydraddoldeb, fwy neu lai (0.9:1).

Yng Nghymru, mae dau aelod o'r etholaethau am bob un o'r rhanbarthau (2:1) yn cael eu hethol. Yn yr Alban, ceir ffactor sy'n agosach at yr Almaen (1.3:1) ac fe welir effaith hynny yn glir yn y senedd newydd.

Anodd gweld Llafur Cymru yn ymgyrchu dros newid trefn sy'n eu gwarchod mor effeithiol, ond fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd y pleidiau eraill yn llygadu eu cyfle. Wedi'r cyfan, ganddyn nhw y mae'r mwyafrif yn y Senedd, nid gan Carwyn Jones a'i blaid.

Beth nesaf, felly?

Image caption Mae Kirsty Williams wedi ymddiswyddo fel arweinydd Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol. Fydd yna rôl newydd iddi hi ym mae Caerdydd?

Y gwersi

Mae 'na wersi amlwg i bob plaid ar ôl nos Iau diwethaf.

Dechreuwn gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Bu'r profiad o golli pedair sedd yn un diflas iawn iddyn nhw, ond ddylai neb ddiystyru camp bersonol Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed. Un o ganlyniadau mwyaf nodedig y noson oedd hwnnw, ac mae ei phenderfyniad i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid yn sicr o greu anobaith ymhlith yr aelodau.

Ond bydd ganddi gyfraniad pwysig i'w wneud yn y Senedd newydd. Gallai roi cefnogaeth anhepgor i'r llywodraeth Lafur pe bai'n dewis, ac fe fydd yn ddiddorol gweld natur ei chyfraniad.

Er bod dyn yn deall yn iawn pam y bu iddi ymddiswyddo yn ddi-oed, rhaid datgan hefyd mai hi - yn rhinwedd ei phroffil amlwg - yw prif gryfder ei phlaid ar hyn o bryd.

A beth am y Ceidwadwyr Cymreig? Colli tair sedd fu ei hanes hwy, a cholli eu statws fel prif wrthblaid yn y broses. Perfformiad cyffredin oedd hwn o'i gymharu â champ yr etholiad cyffredinol flwyddyn yn ôl.

Methu cipio Gŵyr, Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd, ond y methiant mwyaf clir oedd hwnnw ym Mro Morgannwg, milltir sgwâr Andrew RT Davies ei hun. Y mae'n bosib dadlau yn rhesymol, o weld mwyafrif Llafur (dim ond 777), y gallai'r arweinydd fod wedi gwneud mwy o argraff na'r ymgeisydd Ceidwadol cymharol ddieithr. Ond fe benderfynodd Andrew RT mai sefyll ar y restr oedd y peth callaf, a dyna a fu.

Image caption Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, dan bwysau ar ôl perfformiad siomedig ei blaid

Tanseiliwyd yr ymgyrch Geidwadol gan wahaniaeth barn ar Ewrop, ac fe feirniadwyd gweinidogion Ceidwadol yn Llundain am ddiffyg gweledigaeth o ran y diwydiant dur. Nid peth afresymol, felly, yw cynnig bod yr amgylchiadau wedi bod yn anfanteisiol i'r Ceidwadwyr y tro hwn.

Fe fydd rhai (gan gynnwys 10 Downing Street, o bosib) yn dymuno gweld arweinydd Ceidwadol newydd yng Nghymru. Ond mae'n anodd gweld ar hyn o bryd i ba gyfeiriad y byddai'r blaid yn troi, a dylem gofio yn ogystal bod nifer o Geidwadwyr wedi dal eu tir yn gadarn iawn.

Bu'r etholiad yn llwyddiant mawr i UKIP, gan gipio saith sedd (dim un etholaeth yn eu plith, wedi dweud hynny) ac ennill lle amlwg yn y byd gwleidyddol newydd. Bu cryn dipyn o feirniadaeth ar y blaid, ei gwerthoedd, ei pholisïau, a'i chymeriadau. Ond y prawf mwyaf pwysig fydd natur eu cyfraniad yn y Senedd.

Y mae Mark Reckless, cyn-AS Ceidwadol Rochester, yn sicr yn ddyn galluog iawn ac fe fydd yn ddiddorol gweld i ba raddau y bydd yn cyfrannu'n adeiladol dros ystod eang o bynciau mewn dadleuon ac ar bwyllgorau. Neu a fydd carfan UKIP yn colli diddordeb ar ôl y refferendwm os mai 'Aros' yw'r ateb? Cawn weld.

Gwelwyd UKIP yn perfformio'n gryf mewn sawl etholaeth yng nghymoedd y De - gan gynnwys Merthyr, Torfaen ac Islwyn - ond y gwir yw bod Plaid Cymru wedi sicrhau sawl canlyniad trawiadol, yn enwedig ym Mlaenau Gwent (gogwydd o bron 28%), a hyd yn oed yng Ngorllewin Caerdydd (gogwydd o bron 12%), heb sôn am fuddugoliaeth Leanne Wood dros Leighton Andrews yn y Rhondda.

Cyn yr etholiad, bu tipyn o gwyno yn rhengoedd y Blaid am arweiniad Leanne, ond go brin y bydd cefnogwyr Adam Price neu Rhun ap Iorwerth yn gallu codi helynt ar hyn o bryd. Wedi'r cyfan, y mae'r etholiad wedi gosod Leanne Wood yn arweinydd yr wrthblaid swyddogol.

Rhaid dweud serch hynny mai llugoer fu perfformiad y Blaid mewn sawl sedd bwysig. Y targed pennaf oedd Llanelli, lle bu Helen Mary Jones yn ymladd i adennill y sedd. Gwelwyd brwydr gyhyrog yn Nhre'r Sospan rhyngddi hi a Lee Waters, a cholli fu hanes y Blaid o 382 pleidlais.

Y mae nifer o Bleidwyr Llanelli yn ffyrnig eu cynddaredd tuag at Siân Caiach, cyn-aelod o'r Blaid ac ymgeisydd annibynnol Putting Llanelli First, a gipiodd 1,113 o bleidleisiau. Nid peth call fyddai i mi ailadrodd rhai o'r ansoddeiriau solet a glywais ers bore Gwener.

Ffactorau 'lleol' oedd yn gyfrifol am lwyddiannau Plaid Cymru, yn ôl Alun Davies, AC Llafur Blaenau Gwent. Efallai hynny, ond y gwir nad yw hi'n bosibl i'w osgoi, yw bod miloedd o bleidlesiwyr wedi cefnu ar y Blaid Lafur yn rhai o'i chadarnleoedd traddodiadol. Nid oes modd celu hynny.

Image caption Etholiad gwell na'r disgwyl i Lafur ond pwy fydd yng nghabinet newydd y Prif Weinidog Carwyn Jones?

Collodd Llafur dros 8% o'i chefnogaeth ar draws Cymru a pheth dewr fyddai dadlau mai ffactorau 'lleol' yn unig a arweiniodd at hynny. Bu Llafur mewn grym yng Nghaerdydd ers 1999, a'r her fwyaf i Carwyn Jones a'i blaid yw profi bod ganddynt y weledigaeth, y syniadau, yr egni a'r penderfyniad i ddatrys problemau Cymru.

Y mae presenoldeb newydd UKIP yn golygu bod uno'r gwrthbleidiau ar faterion o bwys yn y Senedd yn llai tebygol, ac fe allai hyn fod o gymorth mawr i Carwyn Jones yn y blynyddoedd i ddod. Fe wyddom, hefyd, mai dyma dymor olaf Carwyn fel Prif Weinidog, ac fe fydd ei olynydd yn cael ei ethol maes o law.

Huw Irranca-Davies, aelod newydd Ogwr, fydd yr olynydd hwnnw yn ôl y sôn diweddaraf, ond dylem gydnabod yn syth mai peiriant cymhleth iawn yw peiriant Llafur Cymru.

Peiriant effeithiol iawn, hefyd. Nid oes unrhyw blaid arall yng ngwledydd Prydain yn dod yn agos iddi o ran ennill etholiadau.