Cyn-bennaeth rhaglenni comedi'r BBC wedi marw

gareth gwenlan

Yn 79 oed, bu farw cyn-bennaeth rhaglenni comedi'r BBC, Gareth Gwenlan.

Yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, Gareth Gwenlan oedd yn gyfrifol am gomisiynu cyfresi amlwg fel Yes Prime Minister, Black Adder, Allo Allo, One Foot In The Grave, Birds of a Feather a Keeping Up Appearances.

Bu hefyd yn cynhyrchu'r gyfres boblogaidd Only Fools and Horses.

Yn 2013, fe dderbyniodd Mr Gwenlan yr OBE gan y frenhines am ei wasanaethau i ddarlledu.

Yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Comedi'r BBC, fe enillodd sawl gwobr ryngwladol am ei waith, gan gynnwys gwobr BAFTA am gomedi bob blwyddyn rhwng 1983-1990, yn ogystal â thair gwobr EMMY.

Fe dderbyniodd gymrodoriaeth i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 1997, ac fe gafodd ei ethol yn gymrawd i Goleg Cerdd a Drama Cymru yn 1998.

Wrth roi teyrnged i Mr Gwenlan dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Roedd Gareth Gwenlan yn un o gynhyrchwyr comedi gorau Prydain.

"Roedd yn arloeswr, yn berffeithydd, ac yn gwybod beth oedd yn gwneud i'r genedl chwerthin - pa goffâd gwell 'na gwybod eich bod wedi dod a hwyl a hapusrwydd i filiynau o bobl."