Euro 2016: Cyhoeddi carfan gwersyll hyfforddi

Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi'r garfan o 29 chwaraewr fydd yn mynd i wersyll hyfforddi cyn dechrau Euro 2016.

Mi fydd 29 chwaraewr yn teithio i Bortiwgal ar gyfer sesiynau ymarfer yng ngwesty Vale de Lobo yn yr Algarve i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Fe fydd rheolwr Cymru, Chris Coleman yn cyhoeddi'r garfan derfynol ar 31 Mai.

Bydd chwaraewyr Cymru yn chwarae eu gêm gyfeillgar olaf yn erbyn Sweden yn Stockholm cyn teithio i'w canolfan Euro 2016 yn Dinard, Llydaw.

Carfan

Y garfan o 29 yw: Wayne Hennessey, Daniel Ward, Owain Fôn Williams, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, James Collins, Chris Gunter, Adam Matthews, Neil Taylor, Adam Henley, Paul Dummett, Ashley Richards, Joe Ledley, Joe Allen, David Vaughan, Emyr Huws, Jonathan Williams, David Edwards, George Williams, Aaron Ramsey, Andy King, David Cotterill, Hal Robson-Kanu, Tom Lawrence, Simon Church, Sam Vokes, Wes Burns, Tom Bradshaw.

Dyw Gareth Bale ddim ar y rhestr oherwydd ei fod yn chwarae dros Real Madrid yng ngêm derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop ym Milan ar Fai 28.

Does dim lle i Shaun MacDonald, Lee Evans ac Andrew Crofts yn y garfan.