Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer y daith i Seland Newydd

Sam Warburton Image copyright Getty Images

Mae Sam Warburton wedi ei gynnwys yng ngharfan 35 dyn ar gyfer taith Cymru i Seland Newydd yn yr haf.

Fe wnaeth y capten anafu ei ysgwydd yn chwarae i'r Gleision yn erbyn y Gweilch ar 30 Ebrill, a dyw heb chwarae ers hynny.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Twickenham ar 29 Mai cyn chwarae tair gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon ym mis Mehefin.

Dyw Cymru heb guro Seland Newydd ers 1953, sy'n golygu bod y crysau cochion wedi colli 26 o gemau'n olynol yn eu herbyn.

Alun Wyn yn holliach

Dydy Leigh Halfpenny na Justin Tipuric ar gael oherwydd anafiadau, ond mae Alun Wyn Jones wedi'i gynnwys er nad yw wedi chwarae ers cael ei anafu yn erbyn Lloegr ar 12 Mawrth.

Does dim lle chwaith i brop y Gweilch, Aaron Jarvis, gyda Rhodri Jones wedi'i gynnwys yn ei le.

Mae lle yn y garfan i'r asgellwyr Tom James ac Eli Walker, gydag Alex Cuthbert ddim ar gael ar gyfer y daith yn dilyn llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Rhys Webb, Gareth Davies a Lloyd Williams sydd wedi'u dewis fel mewnwyr, sy'n golygu nad oes lle i'r Scarlet, Aled Davies.

Dyw'r blaenasgellwr, James Davies ddim wedi'i gynnwys yn y garfan chwaith, er iddo ymddangos yn nwy gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dadansoddiad Cennydd Davies o'r garfan

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Rob Evans, Tomas Francis, Paul James, Gethin Jenkins, Rhodri Jones, Samson Lee, Scott Baldwin, Kristian Dacey, Ken Owens, Jake Ball, Luke Charteris, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Taulupe Faletau, James King, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Josh Turnbull, Sam Warburton.

Olwyr: Gareth Davies, Rhys Webb, Lloyd Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Rhys Priestland, Jonathan Davies, Tyler Morgan, Jamie Roberts, Scott Williams, Hallam Amos, Matthew Morgan, Tom James, George North, Eli Walker, Liam Williams.

Gemau Cymru yn yr haf

  • 29 Mai: Lloegr (Twickenham)
  • 11 Mehefin: Seland Newydd (Auckland)
  • 14 Mehefin: Waikato Chiefs (Hamilton)
  • 18 Mehefin: Seland Newydd (Wellington)
  • 25 Mehefin: Seland Newydd (Dunedin)