Cytundeb newydd i Guidolin yn Abertawe

Guidolin Image copyright Getty Images

Mae adran chwaraeon BBC Cymru'n deall y bydd prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Francesco Guidolin, yn cael cynnig cytundeb newydd gyda'r clwb.

Cafodd Guidolin, 60, ei benodi ym mis Ionawr ac mae ei gytundeb presenol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.

Fe wnaeth yr Eidalwr sicrhau bod y clwb yn aros yn Uwch Gynghrair Lloegr, gyda saith buddugoliaeth a thair gêm gyfartal yn ystod ei 15 gêm wrth y llyw.

Bydd cyfarfod o fwrdd y clwb yn digwydd ddydd Mercher, ac mae disgwyl y bydd y cytundeb newydd yn cael ei gadarnhau bryd hynny.

Mae'r Elyrch yn chwarae yn erbyn Manchester City yn eu gêm olaf o'r tymor.

Mae Guidolin wedi dangos diddordeb mewn aros yn Abertawe, ond fe ddywedodd na fyddai'n trafod ei ddyfodol yn y ddinas tan yr oedd y clwb wedi diogelu ei safle yn yr Uwch Gynghrair.