Euro 2016: Joe Ledley yn 'parhau â chyfle' i chwarae

ledley
Image caption Mae Joe Ledley wedi ennill 61 o gapiau i Gymru gan sgorio pedair gôl

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynnu fod gan Joe Ledley "dal gyfle" i chwarae yn Euro 2016 ar ôl cael anaf i'w goes.

Fe dorrodd y chwaraewr canol cae ei ffibwla ym muddugoliaeth ei glwb Crystal Palace yn erbyn Stoke City ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl i Ledley, 29 oed, hefyd fethu rownd derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Manchester United ar 21 Mai.

Daeth Ledley, sydd yng ngharfan ymarfer Cymru ar gyfer y gystadleuaeth yn Ffrainc, ymlaen yn lle Yohan Cabaye yn yr ail hanner, ond daeth oddi ar y cae 11 munud yn ddiweddarach.

Bydd Cymru yn cyhoeddi eu carfan o 23 ar gyfer Euro 2016 ar 31 Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Cyn belled â'n bod ni yn y cwestiwn, mae ganddo dal gyfle i chwarae yn yr Euros. Yn amlwg ei dyddiad pwysig ydi 31 Mai."

Dywedodd llefarydd ar ran Crystal Palace: "Fe all y clwb gadarnhau bod y chwaraewr canol cae, Joe Ledley wedi cael anaf i'w goes yn y gêm yn erbyn Stoke City ddydd Sadwrn, a welodd y chwaraewr yn torri ei ffibwla.

"Bydd yn cael ei asesu yn gyson dros yr wythnosau nesa' gan staff meddygol y clwb."