Gwrthdrawiad Gwynedd: Cyhoeddi enw dyn fu farw

john Image copyright Heddlu gogledd cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw'r beiciwr modur a gafodd ei ladd yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.

Ar gais ei deulu, mae'r heddlu yn cyfeirio ato fel John yn unig.

Bu farw'r dyn 50 oed wedi gwrthdrawiad rhwng ei feic modur Yamaha a nifer o gerbydau eraill ar ffordd yr A496 yn Llanelltyd tua 15:00.

Roedd yn dod o Sir Caer, ac nid oedd ei deulu yn dymuno cyhoeddi ei gyfenw.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu fod John yn "ddyn teulu ymroddedig a oedd yn caru ei deulu a'i ddyweddi yn fawr iawn."

Ychwanegodd: "Roedd yn angerddol am y Byd Superbike ac Superbike Prydeinig. Roedd yn mynd drosodd i Ynys Manaw i weld ras y TT yn flynyddol.

"Roedd wrth ei fodd yn mynd allan gyda'i ffrindiau ar ei feic modur."

Mae'r heddlu yn gofyn i dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.