Francesco Guidolin i aros fel prif hyfforddwr Abertawe

Francesco Guidolin Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Abertawe wedi cadarnhau y bydd Francesco Guidolin yn parhau fel prif hyfforddwr y clwb ar ôl i'r Eidalwr arwyddo cytundeb dwy flynedd.

Fe wnaeth Guidolin ymuno â'r Elyrch ym mis Ionawr ar gytundeb tymor byr nes diwedd y tymor.

Ar y pryd, roedd Abertawe yn safleoedd y cwymp, ond mae'r clwb bellach wedi codi i'r 11eg safle yn yr Uwch Gynghrair gydag un gêm yn weddill.

Dan arweinyddiaeth Guidolin, mae'r Elyrch wedi ennill saith gêm a sicrhau tair gêm gyfartal yn ei 15 gêm wrth y llyw.

Mae'r clwb o dde Cymru yn croesawu Manchester City i'r Liberty ddydd Sul yn eu gêm olaf o'r tymor.