Geiriau coll y meddwl

dementia

Mae 15-21 Mai yn Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, ac mae sylw yn cael ei roi i'r ffordd mae sgrifennu creadigol yn gallu helpu'r nifer gynyddol o bobl sy'n byw â dementia.

Mae dementia yn gyflwr sy'n effeithio ar yr ymennydd, yn arbennig ar ein gallu ni i gofio, meddwl a rhesymu.

Mae'n aml yn dwyn gallu pobl i gofio a thrin geiriau ond mae mwy a mwy o dystiolaeth fod rhoi pwyslais ar eiriau drwy sgrifennu creadigol yn gallu helpu cleifion sydd â dementia.

Ers tair blynedd mae'r bardd John Killick, sydd wedi arloesi ym maes dementia ac ysgrifennu, wedi bod yn hyfforddi awduron o Gymru yng nghanolfan Llenyddiaeth Cymru yn Nhŷ Newydd i fynd ati i ysgrifennu creadigol gyda phobl sy'n byw â dementia.

Roedd Sian Northey yn un o'r rhai oedd ar y cwrs ynghyd â gofalwyr ac awduron eraill fel Manon Steffan Ros, Cefin Roberts a Gwion Hallam.

Mae hi'n ymweld â phobl â dementia mewn cartrefi gofal fel rhan o brosiect Llenyddiaeth Cymru i hybu iechyd a lles mewn cartrefi gofal.

Mae dros 37,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru ac mae disgwyl i'r niferoedd gynyddu o 31% erbyn 2021.

"Oherwydd bod 'na fwy o dementia, bod pobl yn fwy ymwybodol mai dyna sy'n wynebu canran eitha' uchel ohonan ni, mae rhywun yn sylweddoli ei fod yn rhywbeth sydd angen ei wneud, does dim posib jyst anghofio am rhain i gyd," meddai.

"Os ydi hi'n ymddangos fod rhywun yn ffwndro ac yn cael trafferth, mae 'na hefyd rywbeth reit bendant ohonyn nhw yn dal i fod yno, eisiau ei fynegi," esbonia, "mae'r angen i gyfathrebu yn dal i fodoli".

"Ac mae'r profiad o gael rhywun yn gwrando arnyn nhw o ddifri yn rhywbeth prin, achos unwaith mae rhywun yn dechrau anghofio pethau mae'r rhan fwyaf o bobl yn stopio gwrando arnoch chi o ddifri."

Image copyright Sian Northey
Image caption Sian Northey

Mynd yno i sgwrsio efo'r preswylwyr mae Sian yn bennaf, dim ond weithiau y bydd cerdd neu ddarn o ryddiaith yn dod o'r ymweliad.

Dyma un gerdd sydd wedi ei chreu o gyfuniad o eiriau preswylwyr â dementia yng nghartref Bryn Blodau, Llanffestiniog, wrth ymateb i sbrigyn o fintys roedd Sian wedi dod efo hi:

Mint

Ga i hwn efo cinio.

Ddyla bo finag

i neud mint sôs

a blas gwell ar y grefi.

Ei roi ar frechdan

- dw i rioed wedi trio,

ond dyna fyswn i'n ei neud.

Blodyn bach tlws,

O lovely, o ogla neis.

'Sa chi'n rhoi hwn yn y pridd,

dw i bron yn siŵr...

Plannu a diogelu

cyn bod o'n sychu.

O lovely, o ogla neis.

Mae 'na fint gwahanol,

Mae 'na wahanol sorts medda nhw.

Mi wna i roi hwn yn y pridd,

mi wna i roi hwn yn y pridd.

Dro arall mae ymweliad yn gallu ysgogi rhywun i sgrifennu ei farddoniaeth ei hun meddai Siân ac mae hynny yn ei dro yn cyfoethogi ein dealltwriaeth ni o'r meddwl sy'n byw gyda dementia.

Ysgrifennodd Siân y gerdd hon ar ôl bod mewn cartref henoed fel rhan o brosiect dementia a barddoniaeth Prifysgol Bangor: "Mae hi'n cyfleu rhywbeth gobeithio am y profiad o weithio yn y maes, yn arbennig gweithio efo geiriau," meddai:

Ar ôl bod ym Modawen

Weithiau roeddan ni, hi a fi,

yn eu gweld yn dianc,

yn sglefrio i ffwrdd i'w rhyddid

ym mhatrymau'r carpedi,

ym mhlygiadau'r llenni

ac ymysg eu ffrindiau ar y radio.

Ac yna roedd angen eu hamgylchynu

â lasŵ disgrifio.

'Ddim ceffyl, mwy na dafad.'

Eu llusgo yn ôl i'w priod le yn ein cegau.

'Buwch?' 'Ia, buwch.'

Corlannwyd gair.

Awn ymlaen â'r sgwrs.

***

A finnau wrth gerdded adref

yn enwi fy myd

fel plentyn blwydd,

rhag ofn i'r diawled anystywallt

lithrio cyn pryd i guddio

yn y be ti'n galw ar ochr lôn.

Meddwl clir

Mae Siân yn cadw at dechneg John Killick o beidio ychwanegu dim at eiriau'r bobl mae hi'n siarad gyda nhw, a'u cofnodi yn union fel maen nhw'n eu dweud.

"Weithia dwi wedi sylweddoli dim ond wedyn, wrth wrando ar be' ddywedwyd neu ddarllen fy nodiadau, fod rywbeth dwys, clir iawn yn cael ei ddweud," meddai.

Ychydig o bobl â dementia sy'n ysgrifennu barddoniaeth eu hunain, meddai John Killick, ei waith o fel awdur yw ysgrifennu geiriau'r claf ar ei ran a pheidio byth ychwanegu un gair ei hun.

Yna bydd yn ei fwydo nôl i'r claf ac yn gofyn ydyn nhw'n fodlon ag o.

Image copyright Age of Creativity
Image caption Y bardd John Killick yn darllen un o'i gerddi

Deall y claf

Fe ddechreuodd John Killick weithio gyda chleifion dementia yn 1993 pan oedd dealltwriaeth o'r clefyd yn ei fabandod. Mae'n dweud mai "bod yn ffrind" a chyfathrebu gyda'r cleifion yw elfen bwysicaf y gwaith.

Ar ei leoliad cyntaf erioed, heb unrhyw ddealltwriaeth o'r clefyd, penderfynodd fynd i fyw am wythnos gyda chleifion oedd yn cael eu cadw dan glo ar uned breswyl er mwyn dod i'w hadnabod a dod i ddeall dementia.

Ers hynny mae wedi gweithio gyda miloedd o gleifion dros gyfnod o 24 mlynedd a chreu llawer o farddoniaeth o'u geiriau.

Y peth cynta i'w wneud wrth sgwrsio gyda phobl â dementia ydy "dysgu cau eich ceg" meddai John Killick.

"Peidiwch â llenwi'r tawelwch gyda'ch clebran oherwydd mae pobl â dementia yn cymryd amser hir i ddod at y pwynt a mynegi eu hunain.

"Mae'n cymryd amser iddyn nhw brosesu pethau."

Image copyright SPL

Ar yr un donfedd

Mae'n golygu sefydlu perthynas gyda phobl yn gyntaf hefyd, meddai.

"Does dim pwynt crwydro mewn i'r cartref ac esgus fod rhywun ar yr un donfedd â chi, mae hynny'n anhebyg o fod yn wir. Rhaid ichi gamu i mewn i'w byd nhw ac mae hynny'n cymryd amser a thalent.

"Mi all llawer o bobl ddatblygu'r talent hwnnw. Mi all gofalwyr mewn cartref ddatblygu'r talent hwnnw fel eich bod - yn lle siarad dros bobl, neu eu hanwybyddu neu esgus eich bod wedi clywed beth maen nhw wedi ei ddweud - yn gwrando go iawn a rhoi lle iddyn nhw.

"Mae pethau wedi symud ymlaen ac mae llawer ohonom ni sy'n gweithio yn y maes yma wedi gwneud gwahaniaeth ac mae'r llywodraeth rŵan yn gweld pa mor bwysig ydi o.

"Nid problem feddygol yn unig ydi hi ond problem o berthynas a chyfathrebu felly dyna pam mae grwpiau fel y Gymdeithas Alzheimer yn cynnal gweithgareddau yn eu canolfannau dydd.

"Os nag ydyn nhw'n cael cyfleoedd i gyfathrebu mae'n nhw'n colli'r ychydig allu i gyfathrebu sydd ar ôl," meddai, "Use it or lose it, dyna fy namcaniaeth i."