Llawlyfr rheolau o 1851 wedi'i werthu am £13,000

Llawlyfr Image copyright Rogers Jones & Co

Mae llawlyfr o reolau rygbi sy'n dyddio nôl i 1851 wedi'i werthu am £13,000 mewn arwerthiant yng Nghaerdydd.

Credir mai perchennog gwreiddiol y llyfr oedd William Henry Waddington, cyn-brif weinidog Ffrainc oedd yn ddisgybl yn yr ysgol.

Mae'r llyfr, The Laws of Football as Played at Rugby School, yn llyfr poced 8.4cm x 5cm.

Roedd yr arwerthwyr Rogers Jones & Co wedi gosod pris o rhwng £1,000 - £2,000 ar y llyfr.

Image copyright Rogers Jones & Co

Mae'r 17 o dudalennau yn cynnwys 33 o reolau.

Dywedodd yr arwerthwr Ben Rogers Jones: "Dydyn ni ddim yn credu bod llyfr gwreiddiol o'r math yma, nac ailargraffiad o ran hynny, wedi ei werthu mewn arwerthiant o'r blaen.

"Cafodd rheolau'r gêm fodern o rygbi eu hysgrifennu am y tro cyntaf gan dri o ddisgyblion Ysgol Rugby yn Awst 1845.

"Cawsant eu hargraffu gan argraffwyr lleol fel llawlyfr poced, ac roedd chwaraewyr yn arfer eu cario yn eu pocedi," meddai Mr Jones.