Rygbi Gogledd Cymru yn cyrraedd yr Uwchgynghrair

rgc

Mae un o glybiau rygbi ieuengaf y gogledd wedi llwyddo i ennill dyrchafiad i Uwchgyngrair y Principality.

Wedi i glwb Rygbi Gogledd Cymru, neu RGC, lwyddo i drechu Glyn-nedd o 19-7 ddydd Sadwrn, maent bellach yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth SWALEC.

Pedwar clwb sy'n cael eu dyrchafu, ac felly mae'r fuddugoliaeth yn erbyn Glyn-nedd yn ddigon i RGC sicrhau eu lle yn yr Uwchgynghrair.

Fe chwaraeodd y gogleddwyr yn addawol o'r dechrau, gan lwyddo i sgorio tri chais yn yr hanner cyntaf, a pheidio ildio'r un pwynt yn ystod yr hanner, ond er i Lyn-nedd geisio brwydro'n ôl wedi'r egwyl, nid oedd hynny'n ddigon i atal RGC.

Dyma hefyd oedd eu 100fed gêm yn y gynghrair.

Wrth edrych ymlaen at y gêm ddydd Sadwrn, dywedodd hyfforddwr RGC, Phil Davies ef fod wedi cael ei "syfrdanu gan y gefnogaeth, yn enwedig gyda nifer o gefnogwyr sydd wedi bod yn teithio i'n cefnogi" dros yr wythnosau diwethaf.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn mae RGC yn chwarae eu gemau cartref

Er bod tîm rygbi amatur wedi bodoli yng ngogledd Cymru ers dros 50 mlynedd, fe gafodd RGC ei sefydlu gan Gyngor Rygbi Gogledd Cymru, ym mis Chwefror 2007.

Roedd hynny mewn ymateb i gynllun strategol gan Undeb Rygbi Cymru, ar gyfer datblygu rygbi'r undeb yn y rhanbarth.

Yn eu tymor cyntaf fe lwyddodd RGC i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Siroedd Cymru.

Y garfan oedd yn herio Glyn-nedd oedd: Afon Bagshaw, Richard Hopkins, Danny Cross, Tiaan Loots, Carwyn Ap Myrddin, James Lang, Alex Schwarz, Thomas Hughes, Tim Grey, Ian Williams, Maredydd Francis, Sean Lonsdale, Andrew Williams, Mei Parry, Kelvin Davies.

Ar y fainc: Rhys Williams, Joe Simpson, Bryn William, Cam Davies, Josh Leach