Osian Roberts
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymru i 'roi amser' i Joe Ledley brofi ei ffitrwydd

13 Mai 2016 Diweddarwyd 08:10 BST

Gyda phencampwriaeth Euro 2016 i ddechrau mewn pedair wythnos, mae hi'n gyfnod prysur i bêl-droed Cymru.

Cafodd y garfan i deithio i ymarfer ym Mhortiwgal ei henwi ddydd Llun, cyn y newyddion ddydd Mawrth fod amheuaeth mawr am Joe Ledley, sydd wedi torri asgwrn yn ei goes.

Mae'r cefnogwyr wrthi'n cwblhau eu paratoadau teithio, tra bod yr is-reolwr wedi cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb yng Nghaerdydd nos Iau.

Cyn dechrau'r noson, cafodd Rhodri Llywelyn air gydag Osian Roberts gan ofyn i ddechrau os ydi o'n disgwyl i Ledley wella mewn pryd.