Gall arian Ewropeaidd i Gymru 'ddod i ben' erbyn 2020

patel Image copyright PA
Image caption Bydd Priti Patel yn ymweld â de Cymru ddydd Llun

Mae Gweinidog Ceidwadol blaenllaw wedi awgrymu y gall cyllid Ewropeaidd i Gymru ddod i ben erbyn 2020, hyd yn oed os ydi'r Deyrnas Unedig yn aros yn yr undeb.

Mae toriadau i arian cymorth yn ymddangos yn "sicr" wrth i fwy o wledydd geisio ymuno â'r undeb, meddai Priti Patel.

Bydd y Gweinidog Cyflogaeth yn ne Cymru ddydd Llun ac yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd ar ran grŵp Vote Leave.

Ond mae AS Llafur, Stephen Doughty, yn dweud nad oes un wlad o'r DU yn elwa o'r UE fel Cymru a does dim rheswm pam y byddai hynny'n newid.

23 Mehefin

Bydd pobl y Deyrnas Unedig yn cael y cyfle i bleidleisio dros adael neu aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin.

Mae disgwyl i Gymru gael £1.8bn drwy Gronfeydd Strwythurol yr UE rhwng 2014 a 2020.

Mae'r rheiny'n cael eu darparu i rannau tlawd yr undeb er mwyn rhoi hwb economaidd. Y gorllewin a'r Cymoedd yw'r ardaloedd sy'n elwa fwyaf o'r cyllid yng Nghymru.

Image caption Mae Cymru'n gryfach, fwy diogel ac yn elwa o fod yn rhan o'r undeb, meddai David Cameron

Yn ôl David Cameron does dim modd sicrhau y byddai Llywodraeth y DU yn llenwi'r bwlch yng nghyllideb Cymru sy'n dod gan yr UE pe bai Prydain yn gadael.

Ond gan ysgrifennu ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, Click on Wales, mynnodd Ms Patel nad oes "unrhyw sicrwydd y byddai'r cyllid Ewropeaidd yma'n parhau wedi 2020".

Dywedodd nad oedd ei llywodraeth yn gallu rhoi "awgrym o beth fyddai'r lefelau cyllid ac os bydden nhw'n bodoli o gwbl".

'Gostyngiad pellach'

Ychwanegodd Ms Patel: "Gyda gofynion uchel ar adnoddau o rannau eraill o'r UE, ac o wledydd fel Twrci sy'n ystyried ymuno â'r UE, mae'n debygol y bydd Cymru a'r Deyrnas Unedig yn edrych yn sicr o weld gostyngiad pellach yn yr arian wedi 2020.

"Mae'r UE wedi cynllunio toriadau dwfn o'r blaen a bydden nhw'n gwneud hynny eto. Yr unig ffordd i atal hyn rhag digwydd eto, ac i roi dewis i'r llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn San Steffan o sut i wario'r arian, yw pleidleisio i gymryd rheolaeth yn ôl a gadael yr UE."

Dywedodd bod "teuluoedd a busnesau yng Nghymru" yn talu "bron i £650m y flwyddyn tuag at gost aelodaeth y Deyrnas Unedig".

Mae hi hefyd wedi dweud bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ceisio gwneud toriadau i arian cymorth o "tua 27%".

Er bod Llywodraeth Prydain wedi adleoli'r arian mae gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn "parhau i wynebu toriad o 16%", meddai.

Image caption Mae Stephen Doughty yn dweud bod Cymru'n elwa'n ariannol o'r Undeb

Ond mae Mr Doughty, sydd o blaid aros yn yr undeb, yn dweud bod Cymru'n elwa'n ariannol.

Dywedodd bod siâr y Deyrnas Unedig i'r Undeb Ewropeaidd tua £486m, tra bod Cymru'n derbyn rhwng £504-£577m mewn buddsoddiad.

'Cymru'n elwa'

"Y ffaith amdani yw nad oes yna unrhyw ran o'r DU yn elwa cymaint o aelodaeth Ewropeaidd fel Cymru, a does dim rheswm i ni feddwl y byddai hynny'n newid," meddai.

"Mae gennym ni feto ar Dwrci'n ymuno â'r UE, cynnig mae Boris Johnson hyd yn oes wedi cyfaddef sydd 'ddim ar y bwrdd', - felly does yna ddim posib o hynny'n effeithio'n ariannol ar Gymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Prydain yn Gryfach yn Ewrop nad oedden nhw'n cydnabod y ffigwr o 16% o Gronfeydd Strwythurol yn cael ei dorri.

Ychwanegodd bod cyllid Ewropeaidd wedi aros yn gyson rhwng 2007-2013 a 2014-2020.

Mae aelodau blaenllaw o'r blaid Lafur hefyd yn cynnal digwyddiad yn ne Cymru ddydd Llun fel rhan o'r ymgyrch i aros yn yr undeb.