Paratoi am barti Eurovision yn Ruthun

Joe and Jake

Wrth i'r canwr Joe Woolford o Ruthun baratoi i gystadlu yn rownd derfynol yr Eurovision yn Sweden nos Sadwrn, mae pobl Sir Ddinbych yn paratoi am barti arbennig yn y dref.

Mae Joe wedi ei ddewis i gynrychioli Prydain fel rhan o ddeuawd yn y gystadleuaeth ryngwladol.

Mae parti mawreddog wedi cael ei drefnu gan ewythr Joe yn nhref Ruthun, lle gall pobl leol wylio'r gystadleuaeth ar sgrin fawr.

Dywedodd Geraint Woolford fod y dref wedi ei "chyffroi" gan y gystadleuaeth.

Mi fydd Joe a Jake Shakeshaft, o Stoke-on-Trent, yn canu cân o'r enw 'You're Not Alone."

Mi ddaeth y ddau'n ffrindiau wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd ar raglen The Voice

Mae mam Joe, Ffion, ei dad Alun, ei lys-dad Krino Pab, a'i frawd a chwaer Meisha a Zac wedi hedfan allan i Stockholm i'w gefnogi.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Joe Woolford yn dweud bod y gefnogaeth yng Nghymru wedi bod yn "anhygoel"