5,000 o ymwelwyr i ymweld â phorthladd yn Sir Benfro

Corinthian
Image caption Cwch y Corinthian yn cyrraedd porthladd Abergwaun

Mae disgwyl i borthladd yn Sir Benfro groesawu 5,000 o ymwelwyr rhyngwladol yn ystod yr haf.

Fe fydd 19 o longau pleser yn galw ym mhorthladd Abergwaun rhwng mis Mai a mis Medi eleni, gan ddechrau gyda'r Corinthian ddydd Llun.

Dim ond saith o longau ddaeth i Abergwaun yn ystod 2015, ac mae'r cynnydd eleni o ganlyniad i adborth cadarnhaol a gafwyd gan ymwelwyr, yn ogystal a chymorth gan Croeso Cymru.

Disgwylir i'r diwydiant ddod â £2.5m i economi Cymru eleni.

Mae pwyllgor dethol wedi ei ffurfio yn Abergwaun er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael "croeso cynnes" i Sir Benfro, ac yn cael cyfle i brofi ei holl atyniadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor, eu bod yn "falch bod gogledd Sir Benfro wedi cael ei ddewis fel cyrchfan i'r ymwelwyr", gyda dim ond Caergybi yn derbyn mwy o ymweliadau o'r fath yng Nghymru eleni.

Mae'r grŵp yn gobeithio y gallant weld cynnydd i'r 19 o longau ar ôl 2016, er mwyn gwneud Abergwaun yn un o'r "cyrchfannau mordeithio pwysicaf yn y DU".