Achub paragleidiwr o'r môr ar ôl iddo daro clogwyn

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Roedd y dyn wedi llwyddo i dynnu ei hun tuag at greigiau pan gyrhaeddodd y tîm achub

Mae paragleidiwr wedi cael ei achub o'r môr oddi ar arfordir Aberystwyth wedi iddo daro clogwyn a disgyn i'r dŵr.

Cafodd gwylwyr y glannau eu galw i'r digwyddiad am 16:15 ddydd Sul wedi i'r paragleidiwr daro clogwyn rhwng Clarach a Chraig-lais.

Fe welodd ffrind i'r paragleidiwr ei fod wedi mynd i drafferth, cyn galw'r gwasanaethau brys.

Roedd bad achub Arancia allan eisoes oherwydd ei bod ar ei ffodd yn ôl o ddigwyddiad arall, a'r bad yma, gyda help un mwy - Atlantic 85 - oedd yn gyfrifol am achub y dyn.

Roedd y dyn wedi llwyddo i dynnu ei hun tuag at greigiau pan gyrhaeddodd y tîm achub.

Doedd y dyn ddim wedi dioddef unrhyw anafiadau, ac er ei fod yn oer ac wedi cael sioc, doedd dim angen iddo fynd i'r ysbyty.

Image copyright RNLI