Ymchwiliad llofruddiaeth: Arestio dyn

Mae Heddlu De Cymru, sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 73 oed o Gwm Ogwr, wedi arestio dyn lleol 49 oed.

Mae'r dyn hefyd yn cael ei holi ar amheuaeth o geisio llofruddio dynes 21 oed.

Bu farw'r dyn 73 oed rhywbryd rhwng dydd Sul a dydd Llun.

Cafodd yr ymdrech i lofruddio'r ddynes 21 oed ei gofnodi tua 10:45 ddydd Sul.

Mae'r ddynes yn cael triniaeth yn yr ysbyty ond nid yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei bywyd.

Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu yn ddienw ar 0800 555111, gan gofnodi'r cyfeirnod 1600176350.