Dementia: 'Amhosib' cynllunio gofal cyfrwng Cymraeg

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dementia: 'Amhosib' cynllunio gofal Cymraeg

Mae'n "amhosib" cynllunio darpariaeth i gleifion dementia sy'n siarad Cymraeg oherwydd y diffyg gwybodaeth am faint o siaradwyr Cymraeg sydd â'r cyflwr, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Roedd Meri Huws yn siarad â rhaglen Newyddion 9 BBC Cymru.

Gyda mwy a mwy o bobl yn cael diagnosis o ddementia yng Nghymru, dywedodd Ms Huws nad yw'r broblem yn un sy'n mynd i fynd i ffwrdd, ac mae gwasanaethau yn y Gymraeg yn hanfodol i ddioddefwyr sydd â Chymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Ychwanegodd bod y gofal sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio'n sylweddol mewn rhannau gwahanol o Gymru.

Argymhellion

Yn ei hadroddiad - 'Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i'r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol' - mae'r Comisiynydd yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n cynnwys:

  • Gofyn i Weinidogion Cymru, cyrff proffesiynol a chyrff cynrychioliadol roi arweiniad polisi clir i ddarparwyr gofal sylfaenol ar oblygiadau methu â thrin siaradwyr Cymraeg â pharch ac urddas, ac effaith methu â chydnabod eu hunaniaeth a'u hanghenion;
  • Gofyn i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd polisi yn dweud sut, yn ymarferol, y dylid arddangos parch tuag at gleifion Cymraeg sy'n derbyn gwasanaethau gofal sylfaenol;
  • Fel mater o bolisi, gofyn i Weinidogion Cymru sicrhau bod dewis iaith yn gysyniad ystyrlon a ddeëllir. Yn deillio o hyn, dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â holl ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol, gymryd camau i amlygu'r gwasanaethau y gall y cyhoedd ddisgwyl eu bod yn rhesymol eu derbyn yn Gymraeg;
  • Gofyn i Weinidogion Cymru amlinellu pa gamau bwriadant eu cymryd i ddiffinio dewis iaith ac, yn gynyddol, i amlygu'r dewis hwnnw;
  • Gofyn i Weinidogion Cymru, ar y cyd â'r sawl sy'n gyfrifol am wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru, ddarparu arweiniad deallusol ar berthnasedd defnyddio'r Gymraeg i ansawdd gofal, ac yn gysylltiedig â hynny, urddas yr unigolyn.

'Pwysig diwallu'r angen'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y nifer cynyddol o bobl sydd â dementia yng Nghymru, sy'n gyffredin ar draws y byd, a bod yr iaith Gymraeg yn eithriadol bwysig i'r rhai sydd ond yn deall neu'n gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf wrth i'r clefyd waethygu.

"Mae derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o angen i lawer ac mae'n bwysig diwallu'r angen yna fel rhan o ofal sylfaenol.

"Rydym wedi datblygu cynlluniau a pholisïau i gryfhau gwasanaethau yn y Gymraeg mewn darpariaeth gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae'n bwysig symud y cyfrifoldeb o'r defnyddiwr (i ofyn am wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg) i'r gwasanaeth i'w darparu."